Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn diolch i'r Heddlu Gwirfoddol am eu gwasanaeth

6ed Mehefin 2020

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi ysgrifennu at bob un o'r 68 swyddog Heddlu Gwirfoddol yn Heddlu Gwent yn diolch iddynt am eu gwasanaeth, fel rhan o Benwythnos Cenedlaethol yr Heddlu Gwirfoddol (6-7 Mehefin).

Mae swyddogion Heddlu Gwirfoddol yn rhoi o'u hamser am ddim i gefnogi eu cymunedau. Mae ganddyn nhw'r un pwerau â swyddogion arferol ac maen nhw'n derbyn yr un hyfforddiant.

Dywedodd Jeff Cuthbert: “Hoffwn ddefnyddio Penwythnos Cenedlaethol yr Heddlu Gwirfoddol i ddweud diolch wrth bob un o'r 68 swyddog Heddlu Gwirfoddol sy'n gweithio i Heddlu Gwent ar hyn o bryd.

"Mae'r swyddogion gwirfoddol hyn yn rhoi o'u hamser personol, yn ddi-dâl, i amddiffyn trigolion a gwasanaethu eu cymunedau.

"Mae eu cyfraniad i blismona yng Ngwent yn sylweddol a rhaid edmygu eu hymrwymiad a'u hymroddiad.

"Mae hyn yn fwy amlwg nac erioed yn ystod y pandemig presennol, lle mae Heddlu Gwirfoddol Heddlu Gwent wedi rhagori ar yr hyn a ddisgwylir ganddynt fel gwirfoddolwyr i atgyfnerthu adnoddau'r heddlu yn y cyfnod critigol hwn.

"Mae pob awr a dreulir fel swyddog Heddlu Gwirfoddol yn gwneud gwahaniaeth go iawn a hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gysylltu â Heddlu Gwent i gael rhagor o wybodaeth."

Ewch i wefan Heddlu Gwent i ddysgu sut i ddod yn swyddog gwirfoddol.