Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd benywaidd cyntaf Gwent wedi cychwyn ar ei swydd

8fed Mai 2024

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd newydd Gwent, Jane Mudd, wedi cychwyn ar ei swydd yn swyddogol.

Comisiynydd Mudd yw Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd benywaidd cyntaf Gwent a thyngodd ei llw i ymgymryd â’r rôl yn ystod seremoni ym Mhencadlys Heddlu Gwent ddydd Mercher 8 Mai.

Yn ystod y seremoni tyngodd lw Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd i gyflawni dyletswyddau’r swydd, gan addo i wasanaethu pobl Gwent ‘yn ddi-ofn a diduedd’. Ymrwymodd hefyd i roi llais i’r cyhoedd, gan sicrhau tryloywder ei phenderfyniadau, a chynnal annibyniaeth weithredol Heddlu Gwent.

Meddai Comisiynydd Mudd: “Rwyf yn eithriadol o falch i fod y fenyw gyntaf i gael ei hethol fel Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent ac rwyf eisiau sicrhau’r holl drigolion ledled pum sir Gwent y byddaf yn gweithio’n galed ac yn gwneud fy ngorau glas i chi trwy gydol fy nghyfnod yn y swydd.

“Fy mhrif flaenoriaeth yn awr yw treulio amser yn dod i adnabod fy nhîm a dechrau siarad â thrigolion ac ymweld â chymunedau i ddeall beth sydd o bwys go iawn i bobl Gwent.

“Hoffwn ddiolch i’r Comisiynydd blaenorol, Jeff Cuthbert, am ei ymrwymiad i gymunedau Gwent dros yr wyth mlynedd diwethaf, ac am osod seiliau cadarn y gallwn ni adeiladu arnynt.”

Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd sy’n gyfrifol am gynrychioli pobl Gwent a sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir gan yr heddlu’n effeithlon ac effeithiol. Mae’n gwneud hyn trwy:

  • ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif am ddarparu plismona lleol;
  • pennu ac adolygu cynllun heddlu a throsedd;
  • pennu cyllideb a phraesept yr heddlu;
  • ymgysylltu’n rheolaidd gyda’r cyhoedd a chymunedau;
  • penodi Prif Gwnstabl a, ble y bo angen, diswyddo’r Prif Gwnstabl.

Mae’r Comisiynydd yn gyfrifol am roi cymorth i ddioddefwyr trosedd hefyd a chomisiynu gwasanaethau i ddarparu cymorth ymarferol ac emosiynol ar eu cyfer.