Comisiynydd yn Gosod Praesept Gwent

12fed Mawrth 2018

Er mwyn helpu i gynnal plismona rheng flaen a mantoli’r gyllideb, mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi pennu’r cynnydd yn y rhan o Dreth y Cyngor sy’n mynd i Heddlu Gwent ar gyfradd o 4.37%.

Mae hyn yn golygu, o fis Ebrill eleni, y bydd y cartref cyffredin yng Ngwent* yn talu ychydig dros 19c ychwanegol yr wythnos yn awr am ei wasanaeth plismona. Bydd hyn yn galluogi Prif Gwnstabl Heddlu Gwent i gynnal y gwasanaethau presennol a mantoli’r gyllideb yn 2018/19.

Mae ariannu Heddlu Gwent a gwasanaethau plismona yn rhan o ddyletswyddau statudol Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert. Er mwyn sicrhau bod yr holl bobl sy’n byw yng Ngwent yn cael gwasanaeth plismona effeithlon ac effeithiol sy’n darparu gwerth am arian, mae’n ofynnol bod Mr Cuthbert yn pennu’r gyllideb ar gyfer 2018/19 ac yna’n pennu’r Praesept Heddlu (y gyfran o’r gost plismona a delir gan eich treth y cyngor).

Y mis diwethaf, gofynnodd Panel yr Heddlu a Throseddu Gwent, sy’n annibynnol, i Mr Cuthbert ystyried cynnydd arall ar gyfradd o 3.99% yn hytrach na’i gynnydd arfaethedig o 4.49%. Ar ôl ystyried yn ofalus, mae Mr Cuthbert wedi penderfynu pennu’r cynnydd ar gyfradd o 4.37%. Mae’r ffigur hwn yn seiliedig ar achos ariannol cadarn a chanfyddiadau ymgynghoriad a lansiwyd gan Mr Cuthbert a oedd yn gofyn i drigolion faint y byddent yn fodlon ei dalu am eu gwasanaeth plismona. Dywedodd y rhan fwyaf o ymatebwyr (68%) y byddent o blaid cynyddu’r praesept ar gyfradd o 3.99% i warchod eu gwasanaeth plismona. Roedd 54.6% o blaid cynnydd ar gyfradd o 4.99% ac roedd 51.8% o blaid cynnydd ar gyfradd o 5.99%.

Bydd y cynnydd ar gyfradd o 4.37% yn sicrhau bod Heddlu Gwent yn cadw’r niferoedd plismona rheng flaen a mantoli’r gyllideb yn 2018/19.

Oherwydd cyllid annigonol gan Lywodraeth y DU, cynnydd yn y troseddau sy’n cael eu cofnodi a’r ffaith bod troseddau mwy cymhleth yn cael eu cyflawni, dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert nad oedd ganddo unrhyw ddewis ond troi at y boblogaeth leol a chynyddu’r Praesept er mwyn gwarchod y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Yn ôl y Comisiynydd, byddai diffyg buddsoddiad yn ddiamheuol wedi arwain at ostyngiad yn y gwasanaeth plismona a gostyngiad yn hyder y cyhoedd o ganlyniad i hynny.

Gan bwysleisio’r rheswm dros ei benderfyniad, dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: “Nid yw’r penderfyniad i gynyddu’r Praesept yn un rwyf wedi ei gymryd yn ysgafn ac rwy’n cydnabod y bydd unrhyw gynnydd mewn trethiant ar unrhyw lefel yn her i rai o’n trigolion. Fodd bynnag, dyma’r penderfyniad iawn ar gyfer plismona a diogelwch ein cymunedau a derbyniodd gefnogaeth gan y cyhoedd yn fy ymgynghoriad.

Bydd y gyllideb hon yn galluogi Heddlu Gwent i gynnal a gwarchod nifer y swyddogion sydd ganddo ar hyn o bryd a mantoli’r gyllideb y flwyddyn nesaf. Cynaliadwyedd yw’r nod wrth symud ymlaen.”

Ychwanegodd: “Hoffwn ddiolch i holl drigolion Gwent a roddodd o’u hamser i rannu eu barn gyda mi a hoffwn ddiolch i Banel yr Heddlu a Throseddu Gwent am ei her a’i waith craffu.”

Mae’r adroddiad Praesept llawn ar gael ar wefan Panel yr Heddlu a Throseddu Gwent www.gwentpcp.org.uk 

Am wybodaeth bellach am Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent ewch i www.gwent.pcc.police.uk