Comisiynydd Plant Cymru yn ymweld â Heddlu Gwent

7fed Mai 2019

Roedd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent (y Comisiynydd), Jeff Cuthbert, wrth ei fodd i groesawu Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, i Went dydd Gwener i ddangos iddi'r gwaith gwych sy'n digwydd i gefnogi plant a phobl ifanc ledled yr ardal.

Fel rhan o'r ymweliad aeth Mr Cuthbert gyda'r Comisiynydd Plant i ysgol gynradd Nant Celyn, ysgol uwchradd St Julian a'r Ganolfan Plant ar Goll, gan drafod materion fel yr Heddlu Bach, gwaharddiadau o'r ysgol a phobl ifanc bregus mewn perygl o gael pobl yn cam-fanteisio arnynt.

Yn ystod y dydd, clywodd y Comisiynydd a'r Comisiynydd Plant gan nifer o unigolion a oedd wedi elwa ar y gwasanaethau a oedd yn cael eu harddangos gan gynnwys aelodau o'r Heddlu Bach a siaradodd am sut roedd y fenter wedi datblygu eu hyder a meithrin cydberthnasau cadarn gyda'r gymuned o amgylch.

Cyfarfu'r pâr â disgybl ifanc o ysgol uwchradd St Julian a oedd mewn perygl mawr o gael ei wahardd o'r ysgol yn barhaol ond, o ganlyniad i weithio gyda Dyfodol Cadarnhaol a Barnardos Cymru, sy'n cael eu hariannu gan Swyddfa'r Comisiynydd, roedd yn parhau i ddilyn llwybr trwy addysg amser llawn yn llwyddiannus yn awr.

Yn siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd y Comisiynydd "Roeddwn wrth fy modd i groesawu Sally Holland i Went heddiw i ddangos y gwaith gwych rydym ni a'n partneriaid yn ei wneud.

"Mae fy swyddfa wedi ymroi yn wirioneddol i sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwent yn derbyn y cymorth gorau posibl trwy weithio gyda phartneriaid i fabwysiadu dull sydd yn wir yn canolbwyntio ar y plentyn."

I gloi'r ymweliad aethant i'r Ganolfan Plant ar Goll, canolfan bartneriaeth amlasiantaeth sy'n dwyn yr heddlu, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr yn y maes iechyd ac addysg a chynrychiolwyr y trydydd sector at ei gilydd i helpu pobl ifanc bregus.

Yn siarad o'r ganolfan, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, "Mae wedi bod yn ddiwrnod diddorol iawn yn gweld sut mae hawl plant i fod yn hapus, iach a diogel yn cael ei chefnogi gan yr heddlu trwy Went gyfan, ochr yn ochr â'u partneriaid gan gynnwys meysydd iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg.

“Nodwedd orau'r ymweliad oedd gweld yn uniongyrchol y gwaith sy'n digwydd yma yn y Ganolfan Plant ar Goll.”