Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn annog trigolion Gwent i gadw'n ddiogel

21ain Medi 2020

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi annog trigolion Gwent i fod yn wyliadwrus a chadw’n ddiogel ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd Blaenau Gwent a Chasnewydd yn ymuno â Sir Caerffili o dan gyfyngiadau symud lleol.

Dywedodd Jeff Cuthbert: "Gan fod rhagor o gyfyngiadau symud  lleol yn dod i rym ym Mlaenau Gwent a Chasnewydd o 6pm ddydd Mawrth rwy’n annog yr holl drigolion i fod yn gyfrifol, dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, a chadw’n ddiogel."

“Nid yw'r cyfyngiadau symud hyn mor llym ag yr oeddynt yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol ond bydd cyflwyno cyfyngiadau symud lleol yn awr mewn ardaloedd lle mae achosion o Covid yn cynyddu yn ein helpu i leihau lledaeniad y feirws a chadw gwasanaethau lleol, fel ysgolion, ar agor."

“Mae busnesau lleol yn parhau i fod ar agor, a gall ffrindiau a theulu gyfarfod yn yr awyr agored, felly mae'r sefyllfa yn dal i fod yn llawer gwell nag yr oedd yn gynharach yn y flwyddyn."

“Os byddwn ni i gyd yn chwarae ein rhan yn awr, gobeithio y gallwn ni osgoi rhagor o gyfyngiadau symud a helpu i arafu lledaeniad pellach y feirws."

“Dilynwch y canllawiau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru a'ch awdurdodau lleol eich hun yn ystod yr wythnosau nesaf." 

Llywodraeth Cymru
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Blaenau Gwent
Caerffili
Casnewydd