Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent yn Croesawu Adborth o Adroddiad diweddaraf HMICFRS ar Heddlu Gwent
Heddiw, croesawodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, y gydnabyddiaeth yn Adroddiad Effeithiolrwydd diweddaraf Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaeth Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMICFRS) fod Heddlu Gwent yn “Atal troseddu a mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol” ac “ Ymchwilio i drosedd a lleihau ail droseddu” er gwaethaf “cynnydd dramatig yn y galw a phwysau ariannol parhaus”.
Cafwyd canmoliaeth i Heddlu Gwent yn yr adroddiad blynyddol ar effeithiolrwydd a gynhaliwyd gan gorff gwarchod yr heddlu am ei ymwybyddiaeth o bobl agored i niwed ac er iddo nodi bod angen gwella meysydd gan gynnwys cymorth i ddioddefwyr a’r defnydd o gamerâu a wisgir ar y corff mewn digwyddiadau o gam-drin domestig, roedd yn hyderus y gallai Heddlu Gwent wella.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: “Mae Heddlu Gwent wedi cael dyfarniad da yn gyson dros y tair blynedd diwethaf ac mae wedi cael ei adnabod gan yr Arolygiaeth fel un o’r gwasanaethau sydd wedi gwella mwyaf yng Nghymru a Lloegr. Mae’r gwasanaeth wedi cael dyfarniad cyffredinol ‘Da’ yn y pedwar adroddiad diwethaf a gyhoeddwyd gan HMICFRS y flwyddyn ariannol hon.
Er ei bod yn siom i weld bod angen i Heddlu Gwent wella rhai meysydd yn yr adroddiad penodol hwn, rwyf yn croesawu canfyddiadau cyhoeddiad heddiw, a oedd yn pwysleisio lle y gellir gwella gwasanaeth. Roedd yn dda clywed bod gan Heddlu Gwent ymwybyddiaeth dda o bobl agored i niwed ledled ardal y gwasanaeth a’i fod wedi gwella’r ffordd mae’n adnabod pobl agored i niwed pan fyddant yn cysylltu â’r gwasanaeth am y tro cyntaf. Roedd hefyd yn dda gweld bod y gwaith a wneir gan yr Ymarferwyr Iechyd Meddwl Arbenigol sy’n gweithio yn yr ystafell alwadau i roi cymorth i bobl â chyflyrau iechyd meddwl yn cael ei grybwyll.
Mae cysondeb o ran y defnydd o gamerâu a wisgir ar y corff i gofnodi tystiolaeth mewn digwyddiadau o gam-drin domestig eisoes yn derbyn sylw gan y gwasanaeth ers i’r arolwg gael ei gynnal. Gwent yw’r gwasanaeth Heddlu cyntaf yng Nghymru i gael adnodd rhithwir penodol, a lansiwyd y mis diwethaf, i hyfforddi swyddogion i wybod sut i ymdrin â digwyddiadau o gam-drin domestig. Mae swyddogion yn cael eu briffio am bwysigrwydd tanio’r camerâu a wisgir ar y corff pan fyddant yn cyrraedd digwyddiad ac mae’n rhan orfodol o’u hyfforddiant yn awr.
Mae’r adroddiad hefyd yn pwysleisio bod Heddlu Gwent wedi gwella’r ffordd mae’n mynd i’r afael â throsedd difrifol a chyfundrefnol, gan gydnabod yn benodol y gwaith a wneir mewn perthynas â ‘ffiniau sirol’ a thrwy’r ganolfan plant ar goll. Fodd bynnag, mae yn nodi bod lle i wella mewn perthynas â sut mae Heddlu Gwent yn atal troseddau o’r fath.”
Ychwanegodd Mr Cuthbert: “Ers i mi gael fy ethol, rwyf wedi tystio i’r ymdrechion trawiadol a’r gwaith sylweddol sydd wedi cael ei wneud gan Heddlu Gwent, fy swyddfa i a phartneriaid eraill yn y gymuned yn dwyn ystod o brosiectau a mentrau ynghyd i wella ansawdd darpariaeth gwasanaeth i bob dioddefwr trosedd.
Bydd y Prif Gwnstabl a mi’n derbyn y cyngor adeiladol gan HMICFRS yn frwd a gallwn eich sicrhau ein bod yn gwbl ymroddedig i sicrhau bod dioddefwyr trosedd yn derbyn y gwasanaeth gorau posibl.”
Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent Julian Williams, “Er ei bod yn siom ein bod yn colli ein dyfarniad ‘Da’, mae’n galondid gweld y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud o fewn Heddlu Gwent i wella perfformiad mewn meysydd allweddol fel rhoi cymorth i ddioddefwyr ac amddiffyn pobl agored i niwed. Nid ydym byth yn hunanfodlon ac rwyf wedi ymroi i sicrhau ein bod yn cyflawni addewid craidd Heddlu Gwent i amddiffyn a thawelu meddwl y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.”