Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent:Cynnydd yn y praesept “Y penderfyniad cywir i sicrhau diogelwch ein cymunedau”

25ain Ionawr 2019

Heddiw, mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi cadarnhau cynnydd 6.99% ym mhraesept Gwent, ar ôl i Banel Heddlu a Throseddu Gwent gytuno arno.

Mae hyn yn golygu, o fis Ebrill 2019, bydd cartref cyffredin yng Ngwent yn talu £1.39 y mis yn fwy am ei wasanaeth plismona (yn seiliedig ar eiddo band D).

Wrth sôn am y cynnydd, dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert : "Rwyf am sicrhau trigolion na wnes i'r penderfyniad i gynyddu'r praesept eleni ar chwarae bach.

“Rwy'n cydnabod y gall unrhyw gynnydd mewn gwariant fod yn heriol i rai o'n trigolion; fodd bynnag, dyma'r penderfyniad cywir i sicrhau diogelwch ein cymunedau.

“Mae rheswm ariannol cadarn dros y penderfyniad hwn. Ar ben hynny, cynhaliais ymarfer ymgysylltu â'r cyhoedd dros gyfnod o naw wythnos, gan sicrhau bod pawb yng Ngwent wedi cael cyfle i leisio barn.

“Mae nifer y bobl a ymatebodd yn cymeradwyo cynnydd yn dangos i mi fod y cyhoedd yng Ngwent yn deall y galw cynyddol sydd ar ei wasanaeth heddlu, galw sy'n cael ei ddwysau oherwydd toriadau parhaus gan Lywodraeth y DU.

“Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i rannu eu barn, ynghyd â Heddlu Gwent a'r Panel Troseddu am eu craffu a'u cefnogaeth barhaol. Hoffwn gydnabod y penderfyniad anodd roedd aelodau'r panel yn gorfod ei wneud wrth gydbwyso anghenion plismona gyda fforddiadwyedd i drigolion.

“Byddaf yn cael trafodaeth fanwl â'r Prif Gwnstabl yn awr am gynlluniau yn y dyfodol i wella perfformiad ac effeithiolrwydd ac i edrych ar oblygiadau ariannol heriau sylweddol yn y dyfodol, megis ffordd liniaru bosibl yr M4.”

Bydd y cynnydd yn y praesept yn cynyddu nifer y swyddogion heddlu yn y gymdogaeth a'r rhai yn y timau amddiffyn y cyhoedd, a fydd yn gwasanaethu pob rhan o Went.

Mae pennu cyllideb yr heddlu a phenderfynu ar y praesept yn un o brif ddyletswyddau statudol Comisiynwyr Heddlu a Throseddu. Mae sicrhau bod gwasanaeth effeithiol yn cael ei ddarparu hefyd yn un o'r pum blaenoriaeth plismona a amlinellir yng Nghynllun Heddlu a Throseddu Gwent Mr Cuthbert.

Wrth groesawu penderfyniad heddiw, dywedodd Prif Gwnstabl Julian Williams: “Mae'r Gwasanaeth Heddlu'n wynebu galw a chymhlethdodau cynyddol. Rydym yn deall bod cynnydd yn nhreth y cyngor yn her i bobl leol ond gallaf eich sicrhau y byddwn yn defnyddio'r arian yn effeithlon ac yn effeithiol yn ystod y cyfnod hwn i amddiffyn a thawelu meddwl ein cymunedau.

“Yn ystod y cyfnod hwn byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn ymdrin â throseddau cymhleth a bydd y cyllid hwn yn caniatáu i ni barhau i gynyddu nifer ein swyddogion heddlu sydd wedi codi gan 235 dros y 18 mis diwethaf.”

Gellir gweld yr adroddiad praesept llawn ar wefan Panel Heddlu a Throseddu Gwent www.gwentpcp.org.uk 

Am wybodaeth bellach am Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, ewch i www.gwent.pcc.police.uk