Cerbydau oddi ar y ffordd anghyfreithlon

16eg Mawrth 2021

Yn ddiweddar cefais gyfarfod gyda'r Prif Gwnstabl ac ASau o bob rhan o Went i drafod problem cerbydau oddi ar y ffordd anghyfreithlon.

Roedd yn gyfarfod cadarnhaol a rhoddodd yr ASau ganmoliaeth i Heddlu Gwent am eu gwaith yn ceisio mynd i'r afael â'r broblem hon, yn arbennig y llwyddiannau diweddar yng Nghaerffili, lle cafod 15 o feiciau eu hatafaelu.

Er gwaethaf honiadau rhai pobl, nid yw hwn yn drosedd heb ddioddefwyr. Mae defnyddio cerbydau oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon yn niweidio ein cefn gwlad, gan achosi anafiadau, trallod a hyd yn oed farwolaeth i anifeiliaid sy'n pori, yn ogystal ag amharu ar weithgareddau ffermio.

Mae hefyd yn beryglus i gerddwyr a phobl eraill sy'n defnyddio ein mannau agored. Mae llawer o'r cerbydau hyn heb yswiriant a heb dreth ac ni ddylid eu reidio ar y ffyrdd, sy'n golygu bod defnyddwyr arferol y ffyrdd yn cael eu rhoi mewn perygl hefyd yn aml. 

Mae'n drosedd eithriadol o anodd ei blismona. Mae ein hardaloedd gwledig yn eang iawn ac mae pwerau'r heddlu i orfodi unrhyw fathau o fesurau ataliol yn gyfyngedig.

Felly roeddwn yn falch bod gwaith da Heddlu Gwent yn cael ei gydnabod, er gwaethaf yr heriau, ac roeddwn yn gallu ategu fy ymroddiad i weithio gyda'r heddlu a phartneriaid i barhau i geisio rhoi sylw i'r broblem hon.