Cefnogi ffoaduriaid ifanc

14eg Hydref 2022

Roeddwn yn falch o gael gwahoddiad i gyflwyno tystysgrifau i grŵp o ffoaduriaid ifanc sydd wedi cwblhau cyfres o weithdai gyda Heddlu Gwent.

Mae'r bobl ifanc, rhwng 16 a 18 oed, wedi cwblhau cwrs pum wythnos sy'n eu cyflwyno i'r heddlu, esbonio'r cyfreithiau yma yn y DU, ac yn rhoi gwybodaeth iddynt fydd yn helpu i'w cadw'n ddiogel.

Mae Casnewydd yn gartref i tua thraean y ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru sydd ar eu pen eu hunain, sy'n gallu bod yn agored i gael eu hecsbloetio gan gangiau troseddol oherwydd diffyg iaith, a dealltwriaeth ddiwylliannol.

 

Mae'r gweithdai hyn yn helpu i'w cadw'n ddiogel ac yn eu galluogi i chwarae rhan weithredol yn eu cymuned.