Cefnogi ein pobl fwyaf bregus er gwaethaf toriadau

26ain Ebrill 2018

Yn ei golofn ddiweddaraf, mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, yn tynnu sylw at y galw mae ein gwasanaethau heddlu lleol yn ei wynebu . . . .

“Wrth i ni ddechrau’r flwyddyn ariannol newydd, unwaith eto rydym yn wynebu galw cynyddol a chyllidebau gostyngol.

Yn ôl ym mis Mawrth, ymunais â’m cyd Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu i alw ar y Prif Weinidog i ddarparu “darlun clir a gonest” o’r gyllideb ar gyfer plismona. Oherwydd cyllid annigonol gan Lywodraeth y DU, mwy o droseddau’n cael eu cofnodi, a throseddau mwy cymhleth yn cael eu cyflawni, nid oedd gen i unrhyw ddewis ond troi at y boblogaeth leol a chodi’r Praesept 4.37%. Ni wnaethpwyd y penderfyniad heb ystyriaeth ddyledus ac rwyf yn cydnabod y bydd y cynnydd hwn yn heriol i rai o’n trigolion. Fodd bynnag, dyma oedd y penderfyniad gorau er mwyn cadw ein cymunedau’n ddiogel, a derbyniodd gefnogaeth gan y cyhoedd yn fy ymgynghoriad.

Er gwaethaf toriadau parhaus i’r gyllideb, roeddwn yn croesawu Adroddiad Effeithiolrwydd diweddaraf Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi. Er ei bod yn achos siom bod angen gwella Heddlu Gwent mewn rhai meysydd, roeddwn yn falch i glywed bod Heddlu Gwent wedi gwella’r ffordd mae’n adnabod pobl fregus. Ers i mi gael fy ethol, rwyf wedi gweld yr ymdrechion a’r gwaith sylweddol gan staff Heddlu Gwent, fy swyddfa i a phartneriaid eraill yn y gymuned i ddwyn amrywiaeth o brosiectau a mentrau at ei gilydd i wella ansawdd y gwasanaeth a ddarperir ar gyfer pawb sydd wedi dioddef trosedd. Byddaf yn parhau i gefnogi’r Prif Gwnstabl i sicrhau bod hyn yn dal yn flaenoriaeth.

Mae ymwybyddiaeth o Gaethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl yn dal i gynyddu ers fy ngholofn ddiwethaf. Cefais y fraint o addo fy nghefnogaeth i ddigwyddiad Joyce Watson AC yn y Senedd yn ôl ym mis Ionawr, a oedd yn tynnu sylw at yr effaith mae’r troseddau erchyll hyn yn ei gael ar ddioddefwyr. Yn y digwyddiad, gofynnwyd i bartneriaid allweddol ac arweinwyr gwleidyddol yng Nghymru gymryd camau cadarnhaol ac addo i ymroi i’r gwaith o helpu i ddileu’r troseddau hyn am byth. Unwaith eto, roedd llawer iawn o bobl yn bresennol yn y digwyddiad a hoffwn ddiolch i un goroeswr a ddangosodd ddewrder go iawn wrth rannu ei brofiadau fel dioddefwr masnachu pobl er mwyn cam-fanteisio arnynt yn rhywiol gyda’r rhai a oedd yn bresennol yn y digwyddiad.

Rydym wedi gweld sawl uchafbwynt dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf ac edrychaf ymlaen at rannu fy Adroddiad Blynyddol gyda chi yn ystod y misoedd sydd ar ddod, gan dynnu sylw at y gwaith mae fy swyddfa wedi ei wneud dros y flwyddyn ddiwethaf i’ch cadw chi, pobl Gwent, yn ddiogel.

Os oes gennych chi unrhyw faterion yn ymwneud â’r heddlu a throseddu yr hoffech eu trafod gyda fy swyddfa, gallwch anfon e-bost at commissioner@gwent.pnn.police.uk neu ffonio fy swyddfa ar 01633 642 200.”