Cam-drin – ‘does dim terfyn oedran

15fed Mehefin 2021

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi cynnal gweminar ar-lein ar gyfer gweithwyr proffesiynol rheng flaen i dynnu sylw at yr effaith ddinistriol mae cam-drin yn ei gael ar bobl hŷn.

Rhoddodd gweminar 'Cam-drin - 'does dim terfyn oedran' gyfle i'r bobl a oedd yn bresennol ddeall y mathau o gam-drin mae pobl hŷn yn eu profi a chael cipolwg ar y rhwystrau cymhleth maent yn eu hwynebu wrth geisio cymorth.

Rhoddodd lwyfan i leisiau grymus pobl hŷn yng Ngwent trwy astudiaethau achos gan y sefydliad cam-drin domestig a digartrefedd cenedlaethol Llamau, ac argymhellion adroddiad Cymunedau Nas Clywir yn Aml a gomisiynwyd gan VAWDASV Gwent.


Dywedodd Jeff Cuthbert: “Yn anffodus, rydym yn gwybod bod cam-drin yn gallu effeithio unrhyw un o unrhyw oedran, ond mae pobl hŷn yn arbennig o agored i gam-drin a cham-fanteisio.  Mae tystiolaeth wedi awgrymu bod y pandemig wedi gwneud pobl yn fwy ynysig a bregus.

“Bydd bob amser bobl sy’n ceisio cam-fanteisio ar bobl fregus, felly mae’n bwysicach nag erioed o’r blaen i bobl gadw llygad am unrhyw arwyddion o gam-drin. Gallai bod yn ymwybodol o'r arwyddion wrth weithio mewn cymunedau helpu rhywun sy'n cael ei gam-drin neu'n byw mewn perthynas gamdriniol i gael cymorth. 

“Mae cefnogi pobl fregus yn un o’m blaenoriaethau allweddol ac mae wrth galon fy Nghynllun Heddlu a Throseddu ar gyfer Gwent. Ni fydd casineb o unrhyw fath yn cael ei oddef yma yng Ngwent.”

Cynhaliwyd y digwyddiad i nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Pobl Hŷn y Byd, dydd Mawrth 15 Mehefin.

Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE: "Mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Pobl Hŷn y Byd yn ffordd bwysig o atgoffa pobl sut gall cam-drin effeithio ar bobl hŷn, a'r effaith ddinistriol y gall ei gael ar eu bywydau.

"Felly rwy'n falch iawn bod Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent yn dwyn partneriaid allweddol at ei gilydd i ymchwilio i'r ymgyrchoedd sydd ar waith yn lleol ac yn genedlaethol i amddiffyn a diogelu pobl hŷn, ac i archwilio ffyrdd o gydweithio i sicrhau bod pobl hŷn sy'n profi neu mewn perygl o brofi cam-drin yn cael y cymorth a'r gefnogaeth angenrheidiol.

Mae Heddlu Gwent, mewn partneriaeth ag Age Cymru, yn darparu cymorth pwrpasol i bobl hŷn sy'n dioddef trosedd trwy ganolfan dioddefwyr Connect Gwent, sy'n cael cymorth ariannol gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly:

 “Mae Diwrnod Ymwybyddiaeth o Gam-drin Pobl Hŷn y Byd yn gyfle i dynnu sylw at y gwaith sy’n cael ei wneud gan wasanaethau brys a’n partneriaid i ddiogelu’r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau.

“Mae cam-drin pobl hŷn yn gallu bod ar sawl ffurf, boed yn gorfforol, ariannol, rhywiol neu seicolegol.

“Mae plismona’n ymroddedig i amddiffyn a thawelu ein holl gymunedau, gan gynnwys ein cenhedlaeth hŷn.

“Yn anffodus, mae lleiafrif yn ein cymdeithas sy’n cymryd mantais o bobl mewn sefyllfa fregus. Ni fyddwn yn goddef hyn a byddwn yn cymryd camau gweithredu.

“Os ydych yn pryderu am rywun rydych yn ei adnabod , neu os ydych yn cael eich cam-drin eich hun, dewch i siarad â ni.

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd i bob un ohonom gan nad yw teuluoedd, ffrindiau ac anwyliaid wedi gweld ei gilydd mor aml. Beth am gymryd y cyfle hwn i drysori ein hanwyliaid, dysgu o’u profiad a’u diogelu nhw.”

Adnabod arwyddion cam-drin

Mae adnabod yr arwyddion yn gallu bod yn achubiaeth i unrhyw un sy'n profi cam-drin:

Gall arwyddion corfforol gynnwys toriadau ar y croen, cleisiau, doluriau, llosgiadau, esgyrn wedi’u torri, anafiadau heb eu trin, cyflwr gwael ar y croen neu o ran hylendid y croen, ddim yn cael digon o hylifau/bwyd, colli pwysau, a dillad neu eitemau yn y cartref wedi’u difrodi.

Gall arwyddion seicolegol gynnwys straeon annhebygol, amharodrwydd i siarad yn agored, yr unigolyn yn ddryslyd neu’n flin heb reswm amlwg, newidiadau sydyn mewn ymddygiad, yn ofidus neu’n gythryblus yn emosiynol, yn ofnus heb esboniad neu’n dawedog, yn amharod i siarad neu ddim yn ymateb.

Gall arwyddion ariannol gynnwys newidiadau i drefniadau bancio, ewyllys neu asedau'r unigolyn, biliau heb eu talu pan fo rhywun arall i fod i’w talu, costau gofal rhy uchel, eitemau gwerthfawr yn diflannu, a diffyg amwynderau syml fforddiadwy.

Gwasanaethau cymorth

Os ydych yn pryderu bod rhywun yn dioddef cam-drin domestig gallwch gysylltu â thîm Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gwent am gyngor a chymorth ar 01443 86 437 neu drwy gyfrwng www.gwentsafeguarding.org.uk/en/VAWDASV 

Gallwch ffonio Byw Heb Ofn am ddim hefyd ar 0808 80 10 800.

Mae canolfan dioddefwyr Connect Gwent yn cynnig cymorth arbenigol i bobl hŷn. Ffoniwch 0300 123 21 333 neu ewch i www.connectgwent.org.uk

Cofiwch ffonio 999 bob tro mewn argyfwng.