Cadwch yn ddiogel ac arhoswch yn lleol

19eg Mehefin 2020

Sylwadau gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, yn dilyn y sesiwn briffio Coronafeirws diweddaraf gan y Prif Weinidog.

Dywedodd: "Heddiw mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi llacio pellach ar y cyfyngiadau Coronafeirws.

“Gall siopau sy'n gwerthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol ail agor o ddydd Llun ac rydym yn dechrau deall sut bydd ein normal newydd yn edrych yn awr.

"Mae'r gofyniad i aros yn lleol ac i beidio â theithio mwy na phum milltir o’r cartref, yn parhau ar gyfer y mwyafrif a hoffwn annog trigolion i ddilyn y cyngor hwn.

"Rhaid i ni barhau i osgoi torfeydd hefyd, ac er fy mod yn cefnogi cymhellion ac amcanion y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys yn llwyr, gofynnaf yn daer ar bobl sydd am brotestio i ystyried ffyrdd eraill o gael eu clywed.

"Mae mwy i'w wneud o hyd a bydd osgoi torfeydd a theithio diangen yn helpu i leihau'r perygl o ail don yn ddiweddarach."