Cadetiaid yr Heddlu yn derbyn hyfforddiant seiber

3ydd Rhagfyr 2020

Mae Tîm Seiberdroseddu Heddlu Gwent wedi darparu hyfforddiant diogelwch ar-lein i fwy na 70 o gadetiaid yr heddlu.

Dysgodd y bobl ifanc sut i adnabod bygythiadau ar-lein ac addasu eu hymddygiad eu hunain er mwyn osgoi sgamiau ar-lein.

Gallan nhw yn awr gynghori eu ffrindiau, eu teulu a'u cymuned sut i gadw'n ddiogel ar-lein.

Dywedodd y Cadét Mia Davies: "Cyn y sesiwn doeddwn i ddim yn gwybod llawer am seiberdrosedd. Dysgon ni am nifer o wahanol fathau o droseddau, fel hacio a gwe-rwydo, a nawr mae gennym ni ddealltwriaeth llawer gwell o sut i gadw ein hunain yn ddiogel wrth siopa, defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, a chwilio ar-lein."

Dywedodd Kate Lloyd, Swyddog Seiberddiogelwch Heddlu Gwent:  "Rydym ni’n hynod falch o gael y cyfle i gydweithio â chadetiaid ein heddlu. Rydym ni’n ffyddiog y byddan nhw'n dod yn ased gwych i Rwydwaith Seiber Cymru, gan rannu negeseuon a chyngor am ddiogelwch ar-lein, a helpu i ddiogelu eu cymunedau lleol."

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: "Mae gan fwy na 50 y cant o'r holl droseddau a gofnodwyd gan Heddlu Gwent elfen ar-lein erbyn hyn ac felly mae'n hanfodol ein bod yn dechrau addysg ar-lein cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod pobl yn gwybod sut i gadw eu hunain yn ddiogel ar-lein."