Blog gwadd: Martyn Evans, Cadeirydd y Cynllun Ymwelwyr Lles Anifeiliaid

5ed Tachwedd 2020

Mae'r Cynllun Ymwelwyr Lles Anifeiliaid yn cael ei weinyddu gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent ac fe'i sefydlwyd yn dilyn marwolaeth ci heddlu yn Essex yn 1997.

Rwyf wedi bod yn Gadeirydd y Cynllun Ymwelwyr Lles Anifeiliaid ers 2016 ac mae wedi bod yn brofiad difyr a diddorol.

Mae'r pwyllgor yn cynnwys aelodau'r cyhoedd sy'n gwirfoddoli. Mae pob aelod yn hoff iawn o gŵn ac mae llawer ohonynt yn ymwneud â ffurfiau eraill ar les anifeiliaid hefyd.

Mae'r pwyllgor yn cyfarfod bob tri mis ac mae swyddogion o Adran Cŵn Heddlu Gwent yn bresennol i gyflwyno adroddiadau ar waith yr adran. Maent yn adrodd ar iechyd y cŵn heddlu pwrpas cyffredinol a'r cŵn synhwyro arbenigol sy'n helpu i ddod o hyd i gyffuriau, arian neu ffrwydron. Mae cofnodion y cyfarfodydd hyn ar gael ar wefan Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Lles y cŵn yw blaenoriaeth pawb. Mae'r pwyllgor yn trefnu archwiliad misol o swyddogion a chŵn mewn gorsaf heddlu i gadw llygad ar eu hiechyd a lles. Rydym yn archwilio cytiau'r cŵn yn Nhredŵr, Pen-y-bont ar Ogwr bob chwe mis hefyd.

Diolch i'r drefn, mae'r cŵn i gyd yn ymddangos yn hapus ac yn iach fel arfer. Mae ein gwaith ni'n haws diolch i arbenigedd ac ymroddiad trinwyr cŵn Heddlu Gwent, a'r uwch swyddogion sy'n rhannu'r ymroddiad hwnnw, mewn adran y mae ei swyddogaeth yn ehangu'n barhaus wrth blismona Gwent.

Mae llawer mwy o wybodaeth am y cynllun a swyddogaeth y gwirfoddolwyr yn Llawlyfr y Cynllun Ymwelwyr Lles Anifeiliaid