Blog gwadd: Janice Dent, VAWDASV

9fed Hydref 2020

Fi yw Prif Gynghorydd Rhanbarthol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yng Ngwent.

Yn y bôn, mae fy swydd i'n cynnwys gweithio gyda phartneriaid ar draws y rhanbarth i'w cefnogi nhw i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i bobl sy'n cael eu heffeithio gan bob ffurf ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mewn gwirionedd, mae hyn yn golygu llawer o gyfarfodydd.

Sefydlwyd y tîm rhanbarthol a'r bwrdd partneriaeth yn 2015 yn dilyn cyhoeddi Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.  

Mae llawer wedi newid ers hynny ond mae angerdd ac ymroddiad yr holl bartneriaid ar draws y rhanbarth i atal, amddiffyn a chefnogi dinasyddion Gwent sy'n cael eu heffeithio mor gadarn ac erioed.

Mae partneriaid allweddol yn cynnwys pob un o'r pum awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Heddlu Gwent, Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac, yn bwysig, gwasanaethau cymorth arbenigol ledled y rhanbarth i ddioddefwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Mae'r cyfyngiadau symud wedi cael effaith sylweddol ar bob ffurf ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac rydym yn gweithio gyda holl bartneriaid Gwent i ddeall ac addasu er mwyn diwallu anghenion.

Y neges bwysicaf y gallaf ei rhoi yw bod sefydliadau ar gael i roi cymorth i chi, felly os ydych yn pryderu amdanoch eich hun, eich ffrind, aelod o’r teulu, cydweithiwr neu gymydog, cysylltwch â ni.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Diogelu Gwent