Blog gwadd: Gillian Howells, Cadeirydd y Panel Heddlu a Throsedd

23ain Ebrill 2020

Dechreuais ymwneud â Phanel Heddlu a Throsedd Gwent yn 2016 ac rwy'n gadeirydd ers y llynedd.

Ar ôl cael fy magu mewn pentref bach yng Nghwmbrân, symudais i ardal Caerffili dros 20 mlynedd yn ôl, pan 'briodais' i mewn i'r pentref, felly mae Gwent yn rhan hollbwysig o fy mywyd. Mae gennym ni ferch ifanc, rwy'n caru cerddoriaeth, yn arbennig cerddoriaeth gwlad, a theithio cymaint ag y gallaf. Rydym wedi bod yn lwcus ac wedi ymweld â chyrchfannau yn Ewrop ac rydym wedi teithio'n helaeth i America a Canada. Fel teulu, rydym yn mwynhau ymweld â'n hoff lefydd hefyd, fel Southerndown a Bae Langland, yn ogystal â chefnogi clwb hoci iâ Cardiff Devils.

Ar ôl cymryd saib yn fy ngyrfa ar ôl dros 20 mlynedd ym maes cyllid llywodraeth leol, roeddwn yn edrych ar benodiadau cyhoeddus fel ffordd o 'herio’r ymennydd'. Gwelais hysbyseb am swydd Aelod Annibynnol o'r panel ac roedd yn swydd a oedd yn edrych ar berfformiad yn y sector cyhoeddus. Roedd yn apelio'n fawr ata'i. Ar ôl gwneud cais llwyddiannus i fod yn Aelod Annibynnol, es i fy nghyfarfod cyntaf ym mis Rhagfyr 2016.

Swyddogaeth y panel yw cefnogi a herio'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd i sicrhau gweithredu effeithiol a bod y Prif Gwnstabl a'r Llu yn cyflawni'r Cynllun Heddlu a Throsedd. Fel aelod o'r Panel, mae perfformiad Heddlu Gwent a'r ffordd mae'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif yn rhywbeth rwyf wedi canolbwyntio arno'n gyson.

Rwyf yn arbennig o falch o'r fframwaith sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gyda chydweithwyr ar y Panel a staff swyddfa'r Comisiynydd a Heddlu Gwent eu hunain.

O fewn blwyddyn roeddwn wedi dysgu llawer iawn am sut mae Heddlu Gwent yn gweithredu a'r cyfyngiadau arnyn nhw. Mae'r angen am newidiadau i'r ffordd mae'r llu'n gweithredu yn cynyddu ac mae'n rhaid iddyn nhw addasu'n aml i dechnoleg sy'n newid, canfyddiad y cyhoedd a chyfyngiadau ariannol.

Wrth symud ymlaen, mae amgylchiadau presennol COVID 19 yn arbennig, wedi dangos i'r cyhoedd ehangach pa mor bwysig a hanfodol yw'r gwasanaethau cyhoeddus.

Rwyf yn gobeithio bod yn rhan o'r panel am flynyddoedd i ddod a gallu chwarae rhan fach yn sicrhau bod Heddlu Gwent yn derbyn y gefnogaeth a'r ymgysylltiad hollbwysig sydd ei angen arnyn nhw gan y Panel, a sicrhau bod y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn eu cefnogi nhw wrth iddyn nhw ddarparu eu gwasanaethau.