Barn Y Comisiynydd Am Y Gorchmynion Atal Troseddau Cyllyll Arfaethedig

11eg Hydref 2019

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi gwneud sylw ar ymgynghoriad diweddaraf Gwasanaeth Erlyn y Goron a Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (y Cyngor) ar gyhuddo pobl ifanc o droseddau yn ymwneud ag arfau.

Wrth siarad am y newidiadau mae Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r Cyngor yn eu cynnig, dywedodd Mr Cuthbert: "Dylem ni fod yn trin plant fel plant yn gyntaf ac fel troseddwyr yn ail.

"Ar ôl adolygu'r newidiadau awgrymedig i'r canllawiau, rwy'n teimlo bod angen defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar y plentyn pan fydd plentyn yn cael ei ddal yn cario arf.

"Mae'n hollbwysig ein bod yn arfer barn unigol, gytbwys, teg a chymesur er mwyn cyflawni canlyniadau da i blant, gan roi pob cyfle iddyn nhw beidio â throseddu yn y dyfodol.

"Ar ben hynny, dylem ni fod yn sicrhau bod ymyrraeth briodol a chynnar yn digwydd i leihau nifer y plant sy'n troseddu yn y lle cyntaf.

"Mae gan wasanaethau heddlu a gwasanaethau troseddau ieuenctid brotocolau ar y cyd ar waith yn barod sy'n amlinellu arfer sydd wedi ei gytuno'n lleol ar gyfer Gwarediadau y tu Allan i'r Llys.

“Mae'r prosesau hyn yn gweithio ac maen nhw wedi bod yn llwyddiannus iawn yn lleihau nifer y plant sy'n mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol am y tro cyntaf.

"Rwy'n credu y dylid barnu pob achos o blentyn gydag ar arf ymosodol neu lafnog yn ei feddiant ar sail achos unigol bob tro.