Astudiaeth achos: Fearless

1af Gorffennaf 2020

Mae Fearless yn rhan o'r elusen Crimestoppers ac mae'n cael ei ariannu gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a'r Swyddfa Gartref fel rhan o brosiect ehangach gyda'r nod o fynd i'r afael â throseddau difrifol a threfnedig ledled Gwent.

Mae tîm Fearless wedi bod yn gweithio ledled Gwent ers mis Ionawr 2019 ac maent wedi cyflwyno sesiynau i bron i 14,000 o bobl ifanc ar droseddau cyllyll, cam-fanteisio ar blant a symud cyffuriau.

Caiff sesiynau eu cynllunio i roi'r addysg a'r hyder i bobl ifanc adnabod y problemau hyn ymysg eu grwpiau o ffrindiau a chymunedau, a hefyd i roi'r wybodaeth a'r hyder iddynt hysbysu amdanynt.

Gallwch hysbysu am drosedd yn ddienw ar wefan Fearless.

Mae gweithwyr Fearless wedi darparu hyfforddiant i dros 230 o weithwyr proffesiynol, rhieni a gofalwyr ar sut i adnabod arwyddion troseddau trefnedig hefyd.

 

Astudiaeth achos

Gofynnwyd i Callum, sy'n gweithio i Fearless, ddarparu sesiynau mewn ysgol ynghylch symud cyffuriau ar draws ffiniau sirol a throseddau cyllyll oherwydd pryderon y gallai disgyblion fod yn agored i droseddau trefnedig a'r ofn y byddent yn cario cyllyll a symud cyffuriau.

Cyflwynodd Callum sesiynau i grwpiau bach o ddisgyblion blwyddyn 8, 9 a 10, a oedd yn gofyn cyfres o gwestiynau a datganiadau cyn ac ar ôl y sesiwn.

Cyn pob sesiwn gofynnodd:

 

Mae cario cyllell yn gwneud i mi deimlo'n fwy diogel?

Cytunodd bron i bob un o'r bobl ifanc, 90 y cant, gyda'r datganiad hwn ac roedd 10 y cant yn ansicr.

Dywedodd un person ifanc "ydi, rydych chi 100 y cant yn fwy diogel a byddwn i'n cario un i fod yn ddiogel".

 

Byddwn yn ystyried cario cyllell/arf os oeddwn i'n gwybod bod pobl eraill yn eu cario nhw?

Eto, cytunodd 90 y cant gyda'r datganiad hwn ac roedd 10 y cant yn ansicr.

 

Rwy'n gyfarwydd â'r gwahanol gyfreithiau ynghylch cario cyllell/arf troseddol?

Anghytunodd pob un o'r bobl ifanc gyda'r datganiad hwn.

Yn ystod y sesiwn, rhoddodd Callum sylw i'r canlynol: cyflwyniad i Fearless, cyfreithiau, camdybiaethau, dewisiadau a chanlyniadau troseddau cyllyll, a'r gwahanol ffyrdd o geisio cymorth a chodi llais am drosedd.

Ar ôl y sesiwn, gofynnwyd yr un tri chwestiwn i'r bobl ifanc. Roedd cant y cant o'r bobl ifanc wedi newid eu safbwyntiau ar bob datganiad.

Dywedodd un person ifanc: "Ar ôl yr holl wybodaeth yna, fyddwn i byth yn cario cyllell nawr".

Ar ôl sesiynau Fearless roedd gan y disgyblion lawer mwy o wybodaeth ac ymwybyddiaeth am droseddau cyllyll. Roeddent yn teimlo eu bod yn deall canlyniadau troseddau cyllyll ac roeddent yn gallu gwneud penderfyniadau mwy gwybodus a diogel.

Gallwch ddysgu mwy am waith Fearless yng Ngwent ar wefan Fearless