Arian wedi'i atafaelu gan droseddwyr yn helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghwmbrân

14eg Chwefror 2020

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi rhoi arian i Ganolfan Pobl Ifanc Cwmbrân i helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol tref Cwmbrân.

Mae'r arian, sy'n dod o Ddeddf Enillion Troseddau, yn talu i gyflogi hyd at bedwar gweithiwr ieuenctid y noson ac yn galluogi'r ganolfan i agor ei drysau i bobl ifanc bum noson yr wythnos.

Rhoddir cyfle i bobl ifanc gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau cymdeithasol a chynigir cymorth a chefnogaeth iddyn nhw gyda’u haddysg a hyfforddiant.

Mae hyd at 100 o bobl wedi bod yn mynd i'r ganolfan gyda'r nos ers i'r oriau agor newydd ddechrau ym mis Ionawr.

Dywedodd Jeff Cuthbert: “Mae Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân mewn lle delfrydol i gynnig lle diogel yng nghanol y dref i bobl ifanc, lle gallant dreulio amser gyda'u ffrindiau a chael pob math o gefnogaeth a fydd yn eu helpu nhw gyda'u haddysg neu gyflogaeth.

"Mae'n rhoi dewis arall i bobl ifanc ar wahân i ymwneud â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan sicrhau ar yr un pryd bod rhai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymuned yn cael gofal."

Dywedodd Anna Grey, sy'n defnyddio'r ganolfan: "Doeddwn i ddim yn hoffi hongian o gwmpas ar y strydoedd achos doeddwn i ddim yn teimlo'n ddiogel. Mae hwn yn amgylchedd diogel ac rwy'n hoffi gwneud ffrindiau a phrofi gweithgareddau newydd."

Dywedodd Joanne Phillips, Rheolwr y Ganolfan: "Mae'r arian gan Swyddfa'r Comisiynydd wedi bod yn wych i ni. Mae wedi'n galluogi ni i agor y ganolfan gyda'r nos unwaith eto ac er ei bod yn ddyddiau cynnar, mae hyd at 100 o bobl ifanc yn dod yma bob dydd.

"Rydym yn rhoi cyfle iddyn nhw gymdeithasu, cymryd rhan mewn gweithgareddau, a gwneud ffrindiau newydd mewn amgylchedd diogel ac iach lle maen nhw'n gallu cael cymorth gydag unrhyw beth sydd ei angen arnyn nhw."

I weld manylion y cyllid sydd ar gael gan Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, ewch i www.gwent.police.uk