Ail-lansio Cymorthfeydd Cyhoeddus
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent (PCC) wedi ail-lansio ei gymorthfeydd cyhoeddus sy'n rhoi'r cyfle i breswylwyr gwrdd ag ef wyneb yn wyneb er mwyn trafod materion yr heddlu a throseddu yn eu hardal.
O'r mis hwn, bydd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, yn cynnal cymorthfeydd misol mewn lleoliadau amrywiol ledled Gwent, yn cynnig cyfle i aelodau'r gymuned leol siarad ag ef yn uniongyrchol am faterion yr heddlu a throseddu yn eu hardal.
Cynhelir y gyntaf o'r cymorthfeydd hyn rhwng 10am a 12pmddydd Sadwrn, 14 Hydref, yn Neuadd Gymunedol Tŷ-du, (Tir Lles, Heol Tregwilym, Tŷ-du, Casnewydd NP10 9EQ).
Cynhelir cymorthfeydd hefyd yn y lleoliadau canlynol yn ystod y misoedd i ddod:
- Dydd Sadwrn 18 Tachwedd 2017 (10am - 12pm) – LlyfrgellBargoed, Heol Hanbury, Bargoed CF81 8QR
- Dydd Sadwrn 9 Rhagfyr 2017 – Y Blaenau, Blaenau Gwent (lleoliad i'w gadarnhau)
- Dydd Sadwrn 20 Ionawr 2018 (10am - 12pm) – Hwb Cymunedol Cas-gwent, Ffordd Maenor Way, Sir Fynwy NP16 5HZ
- 24 Chwefror 2018 – Blaenafon, Torfaen (lleoliad i'w gadarnhau)
Meddai Mr Cuthbert: “Rwyf am glywed barn pobl am faterion heddlu a throseddu lleol er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu'n adlewyrchu'r problemau heddlu a throseddu mae ein cymunedau amrywiol yn eu hwynebu. Dim ond drwy wrando ar broblemau a phryderon pobl, a thrwy roi anghenion yr unigolyn wrth wraidd yr hyn a wnawn y gallwn geisio rhoi'r ansawdd bywyd gorau posibl i'n dinasyddion. Dyna pam mae'n hollbwysig cynnal cymorthfeydd ar adegau sy'n gyfleus i'r cyhoedd.”
Er mwyn cofrestru eich diddordeb mewn mynd i unrhyw un o'r cymorthfeydd neu i drefnu sesiwn un i un gyda Jeff Cuthbert, e-bostiwch commissioner.@gwent.pnn.police.uk neu ffoniwch 01633 642 200.