Adroddiad annibynnol yn tynnu sylw at weithdrefn cwynion Heddlu Gwent

18fed Hydref 2019

Mae'r adroddiad diweddaraf gan y Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu'n dangos bod Heddlu Gwent yn parhau i ffafrio ymchwiliad ffurfiol fel ei brif ddull o ymdrin â chwynion yn erbyn y llu - https://policeconduct.gov.uk/sites/default/files/Documents/statistics/complaints_statistics_2018_19.pdf 

Mewn cymhariaeth, mae lluoedd heddlu ledled Cymru a Lloegr yn ymdrin â mwy o'u cwynion trwy ddatrysiad lleol yn awr, yn hytrach nac ymchwiliad ffurfiol.

Mae datrysiad lleol yn ffordd o ymdrin â chwynion trwy ddatrys, esbonio neu roi trefn ar fater yn uniongyrchol gyda'r achwynydd.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Mae Heddlu Gwent yn credu bod yr achwynydd yn derbyn gwasanaeth gwell trwy ymchwiliad ffurfiol nac y byddai trwy ddatrysiad lleol. Fodd bynnag, nid ydynt yn hunanfodlon ac mae'r Adran Safonau Proffesiynol yn adolygu'r dull hwn i sicrhau mai dyma yw'r un cywir ar gyfer achwynwyr.

"Mae datrysiadau lleol yn gallu datrys rhai materion yn gyflym, ac yn helpu i feithrin cydberthnasau uniongyrchol rhwng yr heddlu a'r gymuned, ond yn y pen draw, y peth pwysig yw defnyddio'r dull mwyaf priodol er mwyn datrys y gŵyn yn effeithiol.

“Rwy'n hyderus bod gweithdrefn cwynion bresennol Heddlu Gwent yn dryloyw, yn deg ac yn gadarn ac, yn bwysicach, mae’n darparu gwasanaeth da i achwynwyr.”