Adolygiad o Swyddogaeth Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

18fed Mawrth 2021

Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi argymhellion o ran gyntaf ei adolygiad dau ran o gomisiynwyr yr heddlu a throseddu.

Mae'r argymhellion cyntaf yn cynnwys:

  • Newid y system bleidleisio ar gyfer ethol comisiynwyr heddlu a throseddu i system ‘cyntaf i'r felin’
  • Sicrhau bod comisiynwyr yn rhoi gwybodaeth glir i'r cyhoedd am berfformiad eu llu
  • Mandadu penodiad dirprwy gomisiynwyr yr heddlu a throseddu
  • Gwneud newidiadau i sicrhau cydberthnasau mwy effeithiol a chyson rhwng comisiynwyr a phrif gwnstabliaid.


Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: "Mae comisiynwyr yr heddlu a throseddu'n cael eu hethol i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus felly mae'n iawn fod eu swyddogaeth yn cael ei hadolygu i sicrhau eu bod yn parhau i gynrychioli'r dull gorau o wneud plismona'n atebol i'r cyhoedd.

“Wedi dweud hynny, nid oes unrhyw beth annisgwyl yn rhan gyntaf adolygiad llywodraeth y DU. Yma yng Ngwent rwyf yn hyderus ein bod yn cyflawni'r argymhellion a gyhoeddwyd heddiw fel rhan o'n hymrwymiad i sicrhau bod y cyhoedd yn derbyn gwasanaeth effeithlon ac effeithiol gan eu heddlu.

"Rydym wedi ymroi i wella'r ffordd mae perfformiad Heddlu Gwent yn cael ei hysbysu ac mae Panel Heddlu a Throseddu Gwent, sy'n gyfrifol am fy nwyn i gyfrif ar ran y cyhoedd, yn craffu ar y gwaith hwn yn rheolaidd. 

“Rwyf yn ffodus iawn bod gen i gydberthynas weithio gadarn ac effeithiol gyda Phrif Gwnstabl Heddlu Gwent hefyd. Mae'r ddau ohonom yn rhannu'r un amcanion sef gwneud Gwent yn lle diogel i fyw a gweithio ynddo ac i ymweld ag ef, gan amddiffyn y bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau ar yr un pryd.

"Nid ydym yn hunanfodlon a byddwn bob amser yn chwilio am ffyrdd i wella ymhellach, ond mae'r adolygiad hwn wedi rhoi sicrwydd i ni ein bod ni yng Ngwent yn parhau i weithredu'n unol ag arfer gorau cyfredol.

Bydd ail ran yr adolygiad yn cael ei chynnal ar ôl etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu sy'n digwydd ddydd Iau 6 Mai 2021.