Cyllid a Ddyfarnwyd 2018-19

 

Sefydliad: Urban Circle Productions
Swm a Ddyfarnwyd: £48,620.
Ardal Leol: Casnewydd.
Pwrpas: Tuag at y prosiect U-Turn a fydd yn defnyddio gwahanol ffurfiau ar gelf greadigol i fynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol lluosog sy'n effeithio ar bobl ifanc bregus. Bydd y prosiect yn gweithio gyda phartneriaid i gynllunio a threfnu gwahanol ddigwyddiadau, darparu hyfforddiant sgiliau bywyd a rhoi cyfle i'r bobl ifanc ennill cymwysterau mewn gwahanol feysydd e.e. cymorth cyntaf, gwaith ieuenctid a diogelu.

Sefydliad: Cymorth i Fenywod Casnewydd
Swm a Ddyfarnwyd: £9,830.
Ardal Leol: Casnewydd.
Pwrpas: Tuag at y Parth Ieuenctid Aspire a fydd yn darparu lle ar gyfer plant a phobl ifanc 11-16 oed sydd wedi cael eu heffeithio gan, wedi bod yn agored i ac wedi cael eu dylanwadu gan gam-drin domestig. Bydd mentoriaid cadarnhaol yn cael eu darparu hefyd a bydd y prosiect yn cydweddu â gweithgareddau partneriaeth presennol, yn darparu cymorth integredig a chyd-gysylltiedig i'r teulu a fydd yn ymgysylltu â theuluoedd bregus ac yn rhoi cymorth iddynt.

Sefydliad: Dolen Gymunedol Dyffryn
Swm a Ddyfarnwyd: £24,904.53.
Ardal Leol: Casnewydd.
Pwrpas: Cyllid i’r prosiect Dolen Ieuenctid – i dalu am weithwyr ieuenctid, llogi lleoliadau, offer a gweithgareddau ac ati. Bydd y prosiect yn darparu gweithgareddau dargyfeirio y tu allan i oriau ysgol ac yn ystod y gwyliau i bobl ifanc 8-16 oed gan gefnogi, ymgysylltu ac annog pobl ifanc i wneud cyfraniadau cadarnhaol i'w cymuned ar yr un pryd. Bydd cyfleusterau galw heibio i blant a phobl ifanc 11-18 oed ar gael hefyd i ganfod unigolion neu grwpiau sy'n peri problemau; i ddarparu datrysiadau cadarnhaol i grwpiau neu unigolion.

Sefydliad: Volunteering Matters.
Swm a Ddyfarnwyd: £2,250.
Ardal Leol: Gwent gyfan.
Pwrpas:​​​​​​​ Tuag at y prosiect ffilm Safe Male a fydd yn cynnwys cyfranwyr at y prosiect Safe Male sydd ag anghenion ac anableddau dysgu (16-35 oed) i ddatblygu DVD o ffilm fer i godi ymwybyddiaeth o iechyd a chydberthnasau rhywiol priodol i ddynion gydag anabledd a thynnu sylw at beryglon camdriniaeth, yn arbennig o ran Troseddau Cyfeillio.

Sefydliad: Regener8 Cymru
Swm a Ddyfarnwyd: £70,000.
Ardal Leol: Torfaen.
Pwrpas:​​​​​​​ Tuag at brosiect Cydberthnasau Cadarnhaol a fydd yn darparu sesiynau i bobl ifanc mewn ysgolion, clybiau ieuenctid, gwasanaethau troseddau ieuenctid ac ati ar wahanol bynciau: parch mewn cydberthnasau, cam-drin domestig, stereoteipio ar sail rhyw, cydsyniad rhywiol, secstio, pornograffi, cam-fanteisio rhywiol a chanfyddiadau.

Sefydliad: Xcelerate Youth
Swm a Ddyfarnwyd: £12,000.
Ardal Leol: Torfaen.
Pwrpas:​​​​​​​ Tuag at gyflogi gweithiwr teuluoedd / ymarferydd cwnsela a fydd yn gweithio ochr yn ochr â phlant gydag ymddygiad heriol a'u teuluoedd. Nod y prosiect fydd helpu i atal a/neu ddargyfeirio pobl ifanc oddi wrth ymddygiad gwrthgymdeithasol; rhoi cymorth i ddioddefwyr, helpu i ddatblygu pobl ifanc yn gadarnhaol a gwella cydlyniant cymunedol.

Sefydliad: Tŷ Cymunedol
Swm a Ddyfarnwyd: £39,121.
Ardal Leol: Casnewydd
Pwrpas: Tuag at Brosiect Ieuenctid Maendy ‘Schools Out’, a fydd yn cynyddu gweithgarwch ieuenctid yn ystod gwyliau ysgol i gyfeirio pobl ifanc oddi wrth ymddygiad negyddol a hyrwyddo cydberthnasau cadarnhaol.

Sefydliad: Creazione in Community
Swm a Ddyfarnwyd: £39,600.
Ardal Leol: Caerffili.
Pwrpas: Tuag at brosiect a fydd yn ganolfan un stop sy'n cynnig gweithgareddau dargyfeiriol. Bydd y clwb cymuned yn cynnig darpariaeth leol i bobl ifanc a lle diogel, llawn hwyl i fynychu sesiynau wythnosol gyda'r nos ac ar benwythnos pan fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ei waethaf.