Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddyfarnu cyllid grant i dri sefydliad sy'n dod i gyfanswm o £39,154.50 o Gronfa Gymunedol yr Heddlu Swyddfa'r Comisiynydd yn ystod chwe mis olaf 2018/19.

Reference Number: PCCG-2019-027

Date Added: Dydd Llun, 8 Gorffennaf 2019

Details:

Rhestrir yr ymgeiswyr llwyddiannus yr wyf wedi awdurdodi un flwyddyn o gyllid ar eu cyfer isod: Xcelerate Youth - £12,000 tuag at weithiwr teuluoedd / ymarferydd cwnsela a fydd yn gweithio ochr yn ochr â phlant gydag ymddygiad heriol a'u teuluoedd. Nod y prosiect yw helpu i atal a/neu osgoi ymddygiad gwrthgymdeithasol, rhoi cymorth i ddioddefwyr, helpu i ddatblygu pobl ifanc mewn ffordd gadarnhaol a gwella cydlyniant cymunedol. Dolen Gymunedol Dyffryn - £24,904.50 tuag at weithwyr ieuenctid, llogi lleoliadau, offer a chostau gweithgareddau ar gyfer y prosiect Dolen Ieuenctid. Bydd y prosiect yn darparu gweithgareddau dargyfeirio y tu allan i oriau ysgol ac yn ystod y gwyliau i bobl ifanc 8-16 oed gan gefnogi, ymgysylltu ac annog pobl ifanc i wneud cyfraniadau cadarnhaol i'w cymuned ar yr un pryd. Bydd cyfleusterau galw heibio i blant a phobl ifanc 11-18 oed ar gael hefyd i ganfod unigolion neu grwpiau sy'n peri problemau; i ddarparu datrysiadau cadarnhaol i grwpiau neu unigolion. Volunteering Matters Cymru - £2,250 tuag at y prosiect ffilm Safe Male sy'n ehangu ei brosiect Safe Male sy'n gweithio gyda dynion 16 - 35 oed gydag anghenion dysgu ac anableddau. Mae hwn yn brosiect sy'n cael ei arwain gan gymheiriaid ac sy'n darparu gweithdai ar gydberthnasau diogel, cydsyniad, diogelwch ar y rhyngrwyd a diogelwch personol, iechyd rhywiol, troseddau cyfeillio a cham-fanteisio mewn ffordd sy'n gwbl hygyrch a chynhwysol. Bydd y prosiect ffilm Mate Safe yn cynnwys y dynion wrth ddatblygu ffilm fer i godi ymwybyddiaeth o iechyd a chydberthnasau rhywiol priodol i ddynion gydag anableddau a thynnu sylw at beryglon a phroblemau cam-fanteisio, yn arbennig o ran troseddau cyfeillio.

Attachments: