Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi cytuno i roi cyllid grant (a ddyfernir gan y Swyddfa Gartref i'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu) i sefydliadau sy'n gweithio gyda Heddlu Gwent i ddarparu Ymyriadau Troseddau Cyfundrefnol Difrifol.

Reference Number: PCCG-2018-042

Date Added: Dydd Gwener, 5 Hydref 2018

Details:

Bydd £85,000 o grant y Swyddfa Gartref yn talu costau gros y Cyd-gysylltydd Troseddau Cyfundrefnol Difrifol yn y Gymuned a chostau ychwanegol sy'n ofynnol er mwyn cyflawni'r gwaith. Yn ogystal, mae £10,000 yn cael ei glustnodi ar gyfer gwerthuso'r prosiect. Bydd gweddill dyraniad grant y Swyddfa Gartref o £150,000 yn cael ei ddyfarnu i'r pedwar sefydliad partner, er mwyn iddynt allu darparu eu gwasanaethau mewn perthynas â'r meini prawf canlynol ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19: * Atal ac ymyrryd yn gynnar. * Cadernid cymunedol * Cyfathrebu strategol MutualGain - £71,250 Crimestoppers - £36,502.80 Barnardos yn gweithio gyda Casnewydd Fyw - £100,000 Ymddiriedolaeth St Giles - £60,543 Cyfanswm £268,295.80 Bydd y cyllid dros ben o £118,295.80 yn cael ei ariannu o Gronfa Gomisiynu'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Bydd gwaith y sefydliadau uchod yn cael ei fonitro gan y Cyd-gysylltydd Troseddau Cyfundrefnol Difrifol yn y Gymuned, a fydd yn cyflwyno adroddiad i'r Bwrdd Prosiect Troseddau Cyfundrefnol Difrifol bob chwe wythnos. Bydd adroddiadau diweddaru'n cael eu darparu i Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu hefyd i sicrhau bod canlyniadau'r dyfarniadau grant yn cael eu cyflawni.

Attachments: