Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi cytuno i ddiwygio pa mor aml mae'r Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad yn cyfarfod o bob yn ail fis i bob tri mis ac mae hefyd wedi cymeradwyo'r Blaengynllun Gwaith o 1 Ebrill 2018.

Reference Number: PCCG-2018-014

Date Added: Dydd Sul, 22 Ebrill 2018

Details:

Y Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad yw'r prif fforwm lle mae'r Comisiynydd yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif yn unol ag adran 1 (8) Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cyhoeddus 2011. Y Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad yw'r prif fforwm ymgynghori hefyd ar gyfer penderfyniadau strategol sy'n effeithio ar y Comisiynydd a'r Prif Gwnstabl. Bydd y cyhoedd yn gallu bod yn bresennol ym mhob cyfarfod Trafodwyd â Thîm Prif Swyddog Heddlu Gwent ac mae wedi cytuno ar y cynigion.

Attachments: