Gwent Mwy Diogel

Sefydlwyd grŵp Gwent Mwy Diogel er mwyn gweithio gyda phartneriaid diogelwch cymunedol allweddol a phennu cyfeiriad strategol a dull strwythuredig o gyflawni diogelwch cymunedol ar draws y pum ardal awdurdod lleol yng Ngwent.

Mae Gwent Mwy Diogel yn cynnwys cynrychiolwyr o'r awdurdodau lleol, y bwrdd iechyd lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, y sector gwirfoddol, gwasanaethau troseddau ieuenctid a'r gwasanaethau prawf ac adsefydlu.

Nod y grŵp yw datblygu dull ar y cyd i ymgysylltu â'r gymuned er mwyn gwella gwaith partner gyda'r nod o gyflawni gwell canlyniadau wrth fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, atal aildroseddu a chefnogi dioddefwyr.

Mae Gwent Mwy Diogel yn cwrdd bob tri mis ac yn hwyluso rhannu gwybodaeth er mwyn gweithio'n well â phartneriaid; dylanwadu ar gyfleoedd cyllid presennol i gefnogi blaenoriaethau Cynllun Heddlu a Throseddu’r Comisiynydd; mapio gwasanaethau diogelwch cymunedol presennol i ganfod dyblygiadau a diffygion mewn darpariaeth gwasanaeth; a darparu gwybodaeth i gefnogi'r gwaith o gomisiynu gwasanaethau diogelwch cymunedol.