Ymweld â Chaerffili

8fed Mehefin 2021

Mae Jeff Cuthbert, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, wedi bod yn ymweld â threfi a chymunedau yng Nghaerffili ers iddo gael ei ailethol ym mis Mai.

 

Mae'r Comisiynydd wedi ymweld â Choed-duon, Caerffili, Rhisga, Senghennydd ac Ystrad Mynach, a bwriedir cynnal mwy o ymweliadau yn ystod y misoedd nesaf.

 

Yn ogystal â siarad â thrigolion a masnachwyr am y materion sy'n bwysig iddyn nhw, mae'r Comisiynydd wedi bod yn hyrwyddo menter newydd Heddlu Gwent, Dangos y Drws i Drosedd, sy'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â throseddau meddiangar fel byrgleriaeth a lladrata.

 

Manteisiodd hefyd ar y cyfle i ymweld â sesiwn sglefrfyrddio a ariennir gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn Senghennydd, sy'n cael ei rhedeg gan Positive Futures, ac sy'n ceisio helpu plant i ddefnyddio eu hegni mewn gweithgareddau cadarnhaol a chadw draw o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.


Dywedodd Jeff Cuthbert: "Mae wedi bod yn bleser mynd allan i gymunedau yng Nghaerffili, a siarad â thrigolion a masnachwyr am y materion sy'n effeithio arnynt.

 

“Fel cyn-Aelod Cynulliad dros yr ardal ac fel rhywun sy’n byw yma, rwy’n falch iawn o wasanaethu'r gymuned leol ac rwyf wedi bod yn falch o weld bod gan gymunedau, ar y cyfan, brofiad cadarnhaol iawn o'u gwasanaeth plismona lleol.

 

"Fodd bynnag, rwyf yn pryderu bod llawer o fasnachwyr yn dweud wrthyf nad ydyn nhw’n rhoi gwybod i Heddlu Gwent am ladradau neu ddigwyddiadau lefel isel o ddwyn o siopau. Mae'n hanfodol bod masnachwyr yn rhoi gwybod am y materion hyn er mwyn helpu'r heddlu i nodi patrymau mewn troseddu ac ardaloedd lle ceir problemau. Os ydych yn fasnachwr ac wedi cael profiad o’r materion hyn, rhowch wybod amdano cyn gynted â phosibl."


I roi gwybod am ddigwyddiad cysylltwch â Heddlu Gwent ar 101 neu @heddlugwent ar dudalennau Facebook neu Twitter. Mewn argyfwng ffoniwch 999 bob amser.

 

Dysgwch fwy am y cynllun Dangos y Drws i Drosedd