Ymgyrch Uplift

30ain Ebrill 2020

Mae'r Swyddfa Gartref wedi rhyddhau'r ffigurau recriwtio diweddaraf ynghylch Ymgyrch Uplift.

Ledled y DU, mae 3,005 o heddweision ychwanegol yn rhan o'r ymgyrch recriwtio, ac mae 24 o'r rhain yng Ngwent.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: "Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad heddiw o'r ystadegau newydd ar gyfer Ymgyrch Uplift, sy'n dangos effaith leol yr ymgyrch recriwtio genedlaethol. Bydd y swyddogion ychwanegol hyn yn helpu Heddlu Gwent i barhau i ddiogelu a thawelu meddyliau ein preswylwyr, gan sicrhau bod Gwent yn parhau i fod yn lle diogel i fyw, gweithio neu ymweld ag ef.

“Mae plismona yn yrfa gyffrous, a cheir profiadau ardderchog a chyfle i wneud gwahaniaeth i'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Rwy'n gweld tystiolaeth o hyn bob dydd. Rwy'n falch iawn o groesawu'r heddweision newydd hyn i'r teulu plismona ac rwy'n siŵr y bydd eu hymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus yn gwneud gwahaniaeth yn lleol.

“Fodd bynnag, mae’n rhaid i mi bwysleisio na fydd recriwtio'n unig yn ddigon i fynd i'r afael â'r heriau sy'n ein hwynebu heddiw. Mae angen i Lywodraeth y DU barhau i fuddsoddi mewn modd cynaliadwy; nid yn unig o ran plismona, ond hefyd o ran y system cyfiawnder troseddol ehangach. Dim ond drwy ddull cyfannol o fuddsoddi yn y system gyfan y gallwn ysgogi'r newid yr ydym eisiau ei weld.

“Ers dechrau rhaglen gyni Llywodraeth y DU yn 2010/11, mae ein cyllideb yng Ngwent wedi gostwng 40% mewn termau real. Er gwaethaf hyn, rwy'n falch o ddweud ein bod wedi recriwtio mwy na 400 o heddweision ers 2016, ac mae bron i 150 ohonyn nhw yn swyddi plismona newydd. Bydd y swyddi newydd yn sgil Ymgyrch Uplift yn ategu'r buddsoddiad lleol sylweddol hwn.”

Nod Ymgyrch Uplift yw recriwtio 20,000 o heddweision ychwanegol dros y tair blynedd nesaf, a bydd tua 160 o'r rhain yn cael eu creu yng Ngwent.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Pam Kelly : “Rwy'n gwybod bod ein cymunedau lleol eisiau gweld mwy o'n heddweision yn eu hardal ac fe wnaeth cam cyntaf Ymgyrch Uplift roi cyfle i ni ddod â mwy o heddweision i blismona rheng flaen. Mae Gwent yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo ac rydym yn ffodus bod unigolion mor dalentog yn ymuno â'n teulu heddlu.

Rydym ni eisiau i drigolion Gwent ac ymwelwyr deimlo'n ddiogel ac yn ffyddiog yn ein gallu i'w hamddiffyn. Mae'r swyddogion a recriwtiwyd hyd yn hyn, ynghyd â'r buddsoddiad lleol yr ydym eisoes wedi'i wneud, yn golygu ein bod mewn sefyllfa well i wneud hyn nag ar unrhyw adeg arall ers cyflwyno mesurau cyni yn 2010. Byddwn yn parhau i wneud y defnydd gorau posibl o'r heddweision eraill y bydd Gwent yn eu recriwtio dros y ddwy flynedd nesaf er budd ein cymunedau ac i fynd i'r afael â throseddau ledled Gwent.”