Y Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru yn cryfhau ei bwrdd ymhellach

13eg Medi 2021

Mae'n bleser gan y Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru groesawu tri o Brif Gwnstabliaid mwyaf blaenllaw y rhanbarth i'w thîm.

Bydd Jeff Cuthbert, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent ac arweinydd Comisiynwyr yr Heddlu Cymru ar gyfer seiberddiogelwch, y Prif Gwnstabl Pam Kelly ac arweinydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu ar gyfer seiberddiogelwch yng Nghymru, yn ymuno â'r bwrdd, ac mae Dave Thorne, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, hefyd wedi ymgymryd â rôl Cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan ar y cyd â'r Ditectif Uwch-arolygydd Paul Peters.

Fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, daw Jeff â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth i'r rôl hon, gan weithredu hefyd fel dirprwy arweinydd Grŵp Portffolio Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ar Dechnoleg a Materion Digidol yr Heddlu, a Grŵp Portffolio'r Gymdeithas ar Hwyluswyr Busnes. Dechreuodd Jeff ei yrfa wleidyddol yn 2003 drwy wasanaethu fel y Dirprwy Weinidog Sgiliau ac yna'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, a bydd ei rinweddau arwain yn hwb pellach i'r Ganolfan.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Jeff Cuthbert: “Mae seiberdroseddu'n datblygu, ac mae'n hanfodol ein bod yn arfer dull partneriaeth cydgysylltiedig o fynd i'r afael â'r broblem gynyddol hon.

“Mae'n bleser mawr gennyf ymuno â bwrdd y Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru, ac rwy'n hyderus ein bod, drwy gydweithio, mewn sefyllfa well i helpu i herio seiberdroseddwyr a chadw ein busnesau'n ddiogel.”
Mae'r Prif Gwnstabl Pam Kelly wedi chwarae rhan fawr yn natblygiad y Ganolfan fel un o'r uwch-swyddogion a fu'n gyfrifol am ei sefydlu, ac mae ganddi ymrwymiad parhaus i'w llwyddiant parhaus. Ar ôl gweithio ym maes plismona ers 27 blynedd, mae gan Pam gefndir gweithredol cryf iawn, ac mae ei hangerdd dros ddiogelu pobl sy'n agored i niwed yn golygu ei bod yn y sefyllfa berffaith i lywio'r ganolfan.

Wrth sôn am ei rôl newydd ar fwrdd y Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru, dywedodd Pam: “Mae mynd i'r afael â seiberdroseddu yr un mor bwysig i blismona heddiw ag y mae darparu presenoldeb ffisegol i gefnogi busnesau yn ein cymunedau lleol. Mae llywio datblygiad y Ganolfan yn allweddol i gefnogi busnesau yng Nghymru i feithrin seibergadernid ac i ddeall y ffordd orau o gadw eu hunain a'u cwsmeriaid yn ddiogel mewn byd cynyddol ddigidol.”

Mae'r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dave Thorne yn gyfrifol am Bortffolio Troseddau Arbenigol Heddlu De Cymru, yn ogystal â gweithio ochr yn ochr â Paul fel Cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru. Mae wedi bod yn gweithio ym maes plismona ers 22 blynedd, ar ôl dechrau gyda Heddlu Dyfnaint a Chernyw yn 1999. Yn ei rôl fel Cyd-gyfarwyddwr, bydd yn cefnogi Paul yn y gwaith o reoli'r Ganolfan o ddydd i ddydd, ac o'i redeg yn gyffredinol, gan fanteisio ar ei ddealltwriaeth o faterion diogelu er mwyn datblygu'r Ganolfan yn strategol.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dave Thorne: “Seiberdroseddu yw un o'r problemau mwyaf a mwyaf cymhleth sy'n wynebu plismona modern, felly mae helpu busnesau lleol drwy godi eu hymwybyddiaeth a'u helpu i baratoi ar gyfer bygythiadau seiber yn hollbwysig. Byddwn yn annog cymunedau busnes ledled Cymru i gofrestru ar gyfer yr aelodaeth graidd am ddim a gynigir gan y Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru, ac i roi'r mesurau syml hynny ar waith a fydd yn eu gwneud yn llai agored i seiberdroseddu.”

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Paul Peters, Cyfarwyddwr y Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru: “Mae'n bleser mawr gennym groesawu tri unigolyn mor ddisglair i'n bwrdd a'n tîm. Bydd eu harbenigedd proffesiynol a'u profiad strategol fel uwch-arweinwyr plismona yng Nghymru yn helpu i gryfhau ac ategu enw da'r Ganolfan ym maes materion seiber, wrth i ni barhau i ddenu mwy o aelodau ac ehangu ein dylanwad ledled Cymru.”

I gael rhagor o wybodaeth am y Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru, ei gwasanaethau a'r opsiynau aelodaeth sydd ar gael, ewch i www.wcrcentre.co.uk/?lang=cy.