Y Dirprwy Gomisiynydd Yn Cofio Dioddefwyr Trais Ar Sail Anrhydedd

24ain Gorffennaf 2019

Bu Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent (y Dirprwy Gomisiynydd), Eleri Thomas, mewn digwyddiad yng Nghasnewydd i gofio dioddefwyr trais ar sail anrhydedd.

Daeth y digwyddiad, a oedd yn cael ei gynnal gan yr elusen cam-drin domestig, BAWSO, ag aelodau'r gymuned a gweithwyr proffesiynol at ei gilydd i drafod sut gall gwaith partner helpu i ddiogelu merched a menywod rhag priodas dan orfod a thrais ar sail anrhydedd.

Fel rhan o'r digwyddiad, anerchodd Ms Thomas y rhai a oedd yn bresennol, i'w hysbysu am y gwaith y mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent a Heddlu Gwent yn ei wneud i fynd i'r afael â'r troseddau ffiaidd hyn.

Dywedodd y Dirprwy Gomisiynydd, "Mae priodas dan orfod a thrais ar sail anrhydedd yn drosedd gudd sy'n sarhau Hawliau Dynol ac ni ellir ei chyfiawnhau ar unrhyw sail.

"Ni ddylai unrhyw un ddioddef oherwydd pwy ydyn nhw, neu oherwydd y cymunedau maen nhw'n dod ohonynt.

"Rhwng Mawrth 2018 ac Ebrill 2019, cafodd Heddlu Gwent eu hysbysu am ddau achos o briodas dan orfod , 16 achos o drais ar sail anrhydedd, ond dim achosion o anffurfio organau cenhedlu benywod.

"Mae'r ffigyrau hyn yn dangos natur ddiosgoi y troseddau hyn sy'n rhwystro dioddefwyr rhag gallu eu datgelu. Mae hefyd yn dangos nad yr Heddlu yw'r gwasanaeth cyntaf mae'r dioddefwyr yn teimlo eu bod yn gallu cysylltu ag ef neu'n ddigon cryf i gysylltu ag ef.

"O fewn Heddlu Gwent, rydym yn gweithio i fynd i'r afael â hyn trwy hyfforddi Swyddogion Cyswllt Cam-drin ar sail Anrhydedd a thrwy neilltuo Swyddog Cymorth Cymunedol i weithio gyda dioddefwyr a chymunedau.

" Byddwn yn parhau i chwarae ein rhan yn gyrru'r agenda hwn yn ei flaen ac yn dwyn perswâd ar ein partneriaid a'r bobl sy'n llunio polisïau, ar bob lefel, i wneud yr un peth."

Os oes angen cymorth arnoch chi, neu os ydych chi'n adnabod rhywun sydd angen cymorth neu wybodaeth bellach am drais ar sail anrhydedd, gallwch gysylltu â Heddlu Gwent ar 101 (neu 999 mewn argyfwng) neu gallwch gysylltu â Connect Gwent ar 0300 123 21 33.