Y Comisiynydd yn ymuno yng nghwis Cenedlaethol y Cadetiaid Gwirfoddol

23ain Gorffennaf 2021

Roedd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert wrth ei fodd yn ymuno â dros 50 o Gadetiaid Heddlu Gwirfoddol ar gyfer yr ail Gwis Cenedlaethol y Cadetiaid Heddlu Gwirfoddol.

Mae’r cynllun Cadetiaid Heddlu Gwirfoddol yn galluogi pobl ifanc i fod yn fwy ymwybodol o blismona a’i swyddogaeth mewn cymunedau. Mae hefyd yn sefydlu ethos dinasyddiaeth gadarnhaol sy’n hanfodol i fod yn oedolyn cyflawn. Mae’r cynllun yn helpu i osod sylfeini cadarn ar gyfer dyfodol cadarnhaol.

Dywedodd Jeff Cuthbert, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent: “Roeddwn i wrth fy modd i gael fy ngwahodd i gymryd rhan yn y cwis gyda Chadetiaid Heddlu ifanc o bob cwr o’r Deyrnas Unedig.

“Mae fy swyddfa yn falch iawn o waith cadetiaid Heddlu Gwent; maen nhw’n chwarae rhan bwysig iawn yn ein cymunedau.

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, rwy’n gwybod bod y cadetiaid wedi parhau i gefnogi eu cymunedau. Maen nhw wedi dod yn ffrindiau drwy’r post i bobl mewn gofal preswyl ac ysbytai lleol ac wedi ymdrechu i gwrdd drwy gydol y pandemig i ddatblygu mwy o sgiliau i’w helpu yn y dyfodol. Rwy’n canmol eu hymroddiad a’u trugaredd.

“Hoffwn i ddiolch i holl Gadetiaid Heddlu Gwent am gymryd rhan a’r Tîm NXT Gen sydd wedi bod yn amhrisiadwy wrth annog pobl ifanc yng Ngwent i fod yn gadetiaid. Edrychaf ymlaen at gymryd rhan mewn mwy o weithgareddau yn y dyfodol.”

Am fwy o wybodaeth