Y Comisiynydd yn lansio cystadleuaeth gelf gwrth-drais

15fed Tachwedd 2022

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert, wedi lansio cystadleuaeth gelf gwrth-drais i gadw neges bwerus yr Angel Cyllyll yn fyw pan fydd yn gadael Gwent ar 1af Rhagfyr.

 

Gofynnir i blant 10 - 12 oed ddylunio sticer sy'n dweud 'dwed na wrth drais'.

 

Lansiwyd y gystadleuaeth yn Ysgol Gynradd Graig y Rhacca. Cymerodd y disgyblion ran mewn gweithdy gwrth-drais cyn mynd ati i greu dyluniadau sticeri ardderchog.

 

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: “Mae'r Angel Cyllyll yn gerflun pwerus ac mae hi'n fraint ei gael yma yng Ngwent.

 

"Mae'n cyfleu neges bwerus iawn, yn tynnu sylw at ganlyniadau dinistriol trais ac ymosodiad.

 

"Rhaid i ni gadw'r neges yn fyw. Rwyf yn gobeithio trwy gael plant i gymryd rhan yn y gystadleuaeth creu sticeri y byddwn yn gwneud argraff barhaol arnyn nhw na fydd trais ac ymosodiad yn cael eu goddef yng Ngwent.”

 

I gymryd rhan, lawrlwythwch y templed o wefan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd https://www.gwent.pcc.police.uk/en/transparency/knife-angel-national-anti-violence-tour/  Treuliwch amser yn ystyried beth yw ymddygiad treisgar a pham rydych am iddo ddod i ben.

 

Gellir cyflwyno dyluniadau trwy e-bost: commissioner@gwent.police.uk neu drwy gyfrwng unrhyw un o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol Swyddfa'r Comisiynydd @GwentPCC yn defnyddio'r hashnod #KnifeAngelGwent.

 

Bydd crewyr y tri dyluniad gorau yn derbyn taleb a bydd sticeri’r enillydd yn cael eu dylunio a'u hargraffu. Bydd cannoedd o blant a phobl ifanc yn eu gwisgo mewn digwyddiadau dros y flwyddyn nesaf.

 

Dyddiad cau: Dydd Iau 1 Rhagfyr.