Y Comisiynydd yn falch o Adroddiad Cadarnhaol ar Ddalfeydd Gwent

20fed Rhagfyr 2017

Canfu adroddiad yn dilyn ymweliad arolygu dirybudd â dalfeydd yng Ngwent fod pobl yn y ddalfa 'yn cael eu trin â pharch ac yn ystyriol, a'u bod yn cael eu dal yn ddiogel mewn amodau da'.

Mae'r adroddiad a gyhoeddir heddiw'n dilyn arolygon dirybudd o ddalfeydd yr heddlu yng Ngwent a gyflawnwyd ar y cyd gan Arolygiaeth Carchardai EM ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub EM rhwng y 10fed a'r 20fed o Orffennaf 2017.

Yn ystod eu hymweliadau, edrychodd arolygwyr ar bob maes allweddol gan gynnwys strategaeth, triniaeth ac amodau, hawliau unigol a gofal iechyd. Casglodd Arolygiaeth EM fod hwn yn 'adroddiad cadarnhaol' ar y cyfan i Heddlu Gwent a phwysleisiodd:

  • Ei fod yn falch i ganfod bod y rhan fwyaf o bobl a oedd yn cael eu dal yn nalfeydd yr heddlu'n cael eu trin ag urddas ac yn ystyriol, a'u bod yn cael eu dal yn ddiogel mewn amodau da;
  • bod y gwaith o gasglu a thynnu data oddi ar systemau gwybodaeth y llu yn well na'r hyn y maent fel arfer yn ei gael mewn llefydd eraill ac roedd perfformiad yn cael ei ddeall yn dda;
  • bod cynnydd sylweddol wedi cael ei wneud o ran darpariaeth iechyd a bod pobl yn y ddalfa'n derbyn gwasanaeth gofal iechyd cadarn a dibynadwy; a
  • bod pobl sy'n cael eu dal yn nalfeydd yr heddlu yng Ngwent yn cael eu trin yn ddigonol.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi meysydd i'w gwella ac yn argymell sut gall Heddlu Gwent godi safonau ymhellach ar draws ei ddalfeydd. Mae hyn yn cynnwys gwella ansawdd cofnodion y ddalfa; atgyfnerthu ei waith ar y cyd â phartneriaid awdurdod lleol i sicrhau bod plant sy'n cael eu cyhuddo ac y gwrthodir mechnïaeth iddynt yn cael gofal gweddus bob amser; a chodi safon asesiadau risg i bobl yn y ddalfa cyn iddynt gael eu rhyddhau.

Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, sy'n gyfrifol am gynnal a monitro'r Cynllun Ymweliadau Annibynnol â Dalfeydd yng Ngwent lle mae gwirfoddolwyr sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol yn ymweld ag unedau dalfeydd yr heddlu'n ddirybudd i wirio lles pobl sy'n cael eu dal a'r cyfleusterau maent yn cael eu dal ynddynt.

Croesawodd Mr Cuthbert yr adroddiad cadarnhaol a phwysleisiodd bod rhai o'r meysydd i'w gwella wedi cael eu hunioni yn syth ar ôl yr arolwg.

Dywedodd Mr Cuthbert: “Mae sicrhau diogelwch pobl sy'n cael eu dal, a'r swyddogion a staff heddlu sy'n gweithio yn ein dalfeydd yn hollbwysig."

“Rydym wedi buddsoddi'n sylweddol i wella ein hystafelloedd yn nalfeydd Gwent i atal niwed a chreu amgylchedd modern a diogel i bawb. Mae hyn yn cynnwys gosod systemau teledu cylch cyfyng a monitro arwyddion bywyd ym mhob cell i fonitro symudiadau ac anadlu pobl sydd yn y ddalfa. Fodd bynnag, mae lle i wella bob amser ac rydym yn croesawu'r holl feysydd a gafodd eu nodi i fod angen eu gwella gan yr arolygwyr.

Gallwch fod yn sicr y byddaf yn gweithio gyda Heddlu Gwent a'n hymwelwyr annibynnol â dalfeydd i sicrhau ein bod yn gwella mewn perthynas â'r meysydd a nodwyd er mwyn i ni barhau i wella diogelwch yn ein dalfeydd, yn arbennig i'r bobl fregus rydym yn ymdrin â nhw yn aml. Hoffwn hefyd ddiolch i'r holl swyddogion a staff sy'n gweithio yn ein dalfeydd am eu hymdrechion. Mae ganddyn nhw waith caled i'w wneud a hynny mewn amgylchiadau heriol weithiau."

Yn ei sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Julian Williams, Prif Gwnstabl Heddlu Gwent: “Rwy'n falch bod yr arolwg wedi casglu ein bod wedi gwella ein darpariaeth dalfeydd a bod pobl sy'n cael eu dal ynddynt yn cael eu dal yn ddiogel ac mewn amodau da. Byddwn yn adolygu'r argymhellion yn fanwl i sicrhau ein bod yn rhoi sylw i feysydd lle y gellir gwella perfformiad.”

Mae'r cyhoeddiad hwn ar gael i'w lawrlwytho yma:

www.justiceinspectorates.gov.uk/hmiprisons/  neu www.justiceinspectorates.gov.uk/hmicfrs