Y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn croesawu adroddiad cenedlaethol ar seiberdrosedd
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi croesawu adroddiad cenedlaethol gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth, Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (yr Arolygiaeth) ar ymateb y DU i seiberdrosedd.
Cynhaliodd yr Arolygiaeth arolwg i weld sut mae'r heddlu a'r Asiantaeth Trosedd Genedlaethol yn ymdrin â’r bygythiad gan drosedd sy'n ddibynnol ar gyfrifiadur ar hyn o bryd ac ar gyfer y dyfodol.
Mae'r adroddiad yn canmol arfer da cyfredol ond mae'n galw ar Lywodraeth y DU i ddatblygu ymateb plismona cenedlaethol i drosedd sy'n ddibynnol ar gyfrifiadur hefyd.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: "Rwy'n croesawu argymhelliad yr Arolygiaeth y dylai'r llywodraeth ddatblygu ymateb plismona cenedlaethol i drosedd sy'n ddibynnol ar gyfrifiadur.
"Yma yng Ngwent rydym yn datblygu ein cadernid er mwyn mynd i'r afael â'r math hwn o drosedd, sydd ar gynnydd.
"Mae Uned Ymchwiliadau Ariannol a Seiberdrosedd Heddlu Gwent wedi ehangu ac mae ganddo Swyddog Cymorth Cymunedol Seiber a Swyddog Cyber Protect pwrpasol yn awr, i roi cyngor ar ddiogelwch ar-lein i'n cymunedau.
"Fodd bynnag, mae graddfa ryngwladol seiberdrosedd yn rhy fawr i unrhyw un llu heddlu fynd i'r afael â hi ar ei ben ei hun. Rydym eisoes yn gweithio'n agos gyda lluoedd eraill, partneriaid a llywodraethau Cymru a'r DU, ond mae angen dull mwy cydlynol i ddiogelu yn erbyn y bygythiad hwn i'n diogelwch cenedlaethol.”
Mae'r adroddiad llawn ar gael yma www.justiceinspectorates.gov.uk/hmicfrs/wp-content/uploads/cyber-keep-the-light-on-an-inspection-of-the-police-response-to-cyber-dependent-crime.pdf