Y Comisiynydd Dioddefwyr yn ymweld â chanolfan dioddefwyr Gwent

5ed Rhagfyr 2018

Mae Barwnes Newlove, Comisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr, wedi ymweld â chanolfan dioddefwyr Gwent yng Nghoed-duon dair blynedd ar ôl iddi helpu i'w lansio.

Connect Gwent, a ariennir drwy Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, yw'r unig ganolfan i ddioddefwyr troseddau a thystion o'i math yng Nghymru.

Mae'n dwyn amrywiaeth o sefydliadau arbenigol at ei gilydd o dan un to i roi cyngor, eiriolaeth, cefnogaeth ac arweiniad i ddioddefwyr, pa un ai a ydynt am hysbysu'r heddlu am ddigwyddiadau neu beidio.

Lansiodd Barwnes Newlove y gwasanaeth yn ôl yn 2015 ac ers iddi agor ei drysau mae'r ganolfan wedi cefnogi rhyw 4,000 o bobl.

Dywedodd Barwnes Newlove: “Roedd yn wych dychwelyd i Connect Gwent a gweld y gwaith sydd wedi bod yn digwydd dros y blynyddoedd diwethaf. Mae dioddefwyr yn cael eu symud o un asiantaeth i’r llall yn aml, ond yr hyn sydd ei angen arnynt yw un person sy'n deall eu sefyllfa ac sy'n gallu eu harwain drwy'r cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt.

“Cefais y fraint o gwrdd â nifer o ddioddefwyr sy'n cael cymorth gan Connect Gwent i adfer ar ôl dioddef troseddau. Yr hyn a glywais ganddynt oedd y byddent ar goll heb gymorth y staff yn Connect Gwent.”

Dywedodd Y Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu, Eleri Thomas MBE: “Rydym yn hynod o falch o Connect Gwent, a oedd y ganolfan cefnogi dioddefwyr gyntaf o'i math yng Nghymru.

“Trwy ddod â sefydliadau allweddol at ei gilydd o dan un to gallwn sicrhau ein bod yn rhoi blaenoriaeth i'r dioddefwr bob amser, yn cynnig cymorth pwrpasol iddynt sy'n diwallu eu hanghenion unigol.”

Mae dros 30 o staff yn y ganolfan ynghyd a llawer o wirfoddolwyr sy'n gweithio ar draws y pum ardal awdurdod lleol yng Ngwent. Ymysg yr asiantaethau mae Age Cymru, Umbrella Cymru, Cymorth i Ddioddefwyr a Llwybrau Newydd ac ymysg staff mae gweithiwr achos caethwasiaeth fodern a masnachu pobl, uned gofal tystion yr heddlu, swyddog twyll arbenigol a chyd-gysylltydd cyfiawnder adferol.

Mae Connect Gwent yn gweithio gyda llawer o sefydliadau eraill ledled Gwent hefyd i ddarparu pecyn cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Rhiannon Kirk: “Mae hwn yn wasanaeth gwerthfawr sy'n cydnabod bod gan ddioddefwyr trosedd lawer o anghenion gwahanol, yn amrywio o faterion ymarferol i rai emosiynol neu yn syml iawn yn cyfeirio pobl at y cyngor cywir.

“Fel Llu rydym wedi ymroi yn llwyr i greu fframwaith partner effeithiol i fynd i'r afael â throsedd a diogelu dioddefwyr.”

I siarad â chynghorydd yn Connect Gwent ffoniwch 0300 123 21 33. Gallwch eu dilyn ar Twitter hefyd @connectgwent