Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Stelcio
28ain Ebrill 2022
Eleni, mae Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Stelcio yn tynnu sylw at y rôl hollbwysig mae eiriolwyr stelcio yn ei chwarae yn pontio'r bwlch rhwng y dioddefwr a'r system cyfiawnder troseddol.
Ni fydd stelcio ac aflonyddu'n cael eu goddef, ac mae fy swyddfa i a Heddlu Gwent wedi ymroi i roi cymorth i ddioddefwyr y drosedd arswydus hon.
Mae rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr ar gael ar wefan Heddlu Gwent.