Uned Heddlu Bach newydd ym Mlaenau

28ain Ionawr 2020

 

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: “Mae'r cynllun Heddlu Bach yn ffordd ryngweithiol, llawn hwyl i blant ddysgu sgiliau newydd, magu hyder yn eu galluoedd a chwarae rhan yn eu cymuned leol.

“Mae'n meithrin ymddiriedaeth a hyder rhwng yr heddlu a phlant pan fyddan nhw'n ifanc, gan helpu i greu gwell synnwyr o gydlyniant gyda'r gymuned ehangach.

“Rwy'n falch bod gennym ni yng Ngwent yr uned Heddlu Bach gyntaf yn y DU sydd wedi ei lleoli mewn mosg ac edrychaf ymlaen at glywed mwy am eu gwaith yn ystod y misoedd i ddod.”