Tîm yr heddlu sy'n mynd i'r afael â thrawma yn ystod plentyndod yn ennill gwobr Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu

25ain Awst 2020

Mae tîm Heddlu Gwent sy'n gweithio i wella ymateb yr heddlu a phartneriaid i brofiadau dirdynnol a thrawmatig yn ystod plentyndod, wedi cael ei gymeradwyo gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert.

Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn cynnwys camdriniaeth gorfforol, emosiynol neu rywiol, a phrofiadau megis tyfu i fyny mewn cartref gyda thrais domestig, salwch meddwl, camddefnydd o alcohol neu gyffuriau a rhiant yn y carchar.

Sefydlwyd Rhaglen Camau Cynnar Gyda'n Gilydd yng Ngwent yn 2018. Hyd yn hyn mae'r tîm wedi hyfforddi rhyw 1300 o swyddogion heddlu a 400 o staff o asiantaethau partner i adnabod arwyddion profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a sicrhau bod y cymorth cywir yn cael ei gynnig i blant a'u teuluoedd.

Mae bron i 900 o blant a 500 o deuluoedd wedi derbyn cymorth ers dechrau'r prosiect.

Derbyniodd y tîm wobr Partneriaeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu fel rhan o Wobrau Heddlu Gwent 2020.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: “Mae'r dystiolaeth yn dangos bod plant sy'n profi trawma yn fwy tebygol o berfformio'n wael yn yr ysgol ac yn fwy tebygol o ddechrau ymwneud â throsedd.

"Mae'r tîm sy'n gweithio ar y rhaglen Camau Cynnar Gyda'n Gilydd yn sicrhau bod diogelu pobl fregus wrth galon dull plismona Heddlu Gwent pan fyddant yn ymdrin â phlant a phobl ifanc, ac mae'n gweithio gyda phartneriaid i sicrhau'r canlyniad gorau posibl i blant a'u teuluoedd."

Mae'r rhaglen yn cynnwys cyflwyno Ymgyrch Encompass, lle mae'r heddlu'n rhoi gwybod i ysgolion cyn i'r diwrnod ysgol ddechrau am unrhyw ddigwyddiadau cam-drin domestig y mae plant wedi bod yn rhan ohonynt neu'n dyst iddynt y noson cynt, gan helpu i sicrhau bod cymorth diogelu priodol ar gael.

Mae hefyd wedi cyflwyno Uwch Ymarferydd Diogelu i Ystafell Reoli'r Llu Heddlu Gwent. Dyma'r swydd gyntaf o'i math yng Nghymru ac mae'n monitro digwyddiadau byw er mwyn rhoi cyngor, arweiniad a chymorth diogelwch i swyddogion heddlu rheng flaen.

Dywedodd Ditectif Brif Arolygydd Andrew Tuck, sy'n arwain y rhaglen Camau Cynnar Gyda'n Gilydd: “Yn aml, yr heddlu yw'r asiantaeth gyntaf i fod mewn cysylltiad â phlant neu deuluoedd sydd angen cymorth. Trwy adnabod trawma a bregusrwydd pobl a nodi'r angen am ymyrraeth gynnar, gyda'n partneriaid rydym yn gallu atal problemau cyn iddynt waethygu a helpu i greu rhagolygon gwell a mwy cadarnhaol i blant a theuluoedd.

“Trwy'r rhaglen rydym wedi datblygu dull system gyfan ar gyfer ymyrraeth ac atal cynnar, gan roi'r sgiliau i swyddogion a staff roi cymorth i bobl sydd ei angen neu eu cyfeirio nhw at gymorth. Rydym wedi buddsoddi'n helaeth mewn hyfforddiant er mwyn i'n swyddogion a staff allu adnabod arwyddion profiadau niweidiol yn ystod plentyndod; mae hyn yn ein galluogi ni i ymateb yn y ffordd orau posibl i'r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau.

"Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo ac mae ein staff a'n partneriaid wedi ymroi i gydweithio i ddarparu' cymorth mwyaf priodol i'r rheini sydd ei angen."