Tîm y Comisiynydd yn cefnogi prosiect lleol i godi sbwriel

8fed Hydref 2019

Ymunodd cynrychiolwyr o Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent gyda phartneriaid lleol i godi sbwriel ym Mhwll Glo Marine, Cwm, Blaenau Gwent dydd Gwener 4 Hydref.

Cliriwyd dros 20 bag o sbwriel a thipio anghyfreithlon o safle'r hen bwll glo fel rhan o brosiect Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Blaenau Gwent i ddatblygu Llwybr Ebwy Fawr rhwng Tredegar a Chwm.

Nod prosiect Blaenau Gwent yn Symud yw cael mwy o bobl allan i'r awyr agored i gadw'n heini ac iach, a mwynhau'r natur sydd o'u cwmpas.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Mae mwy nac erioed o straen ariannol ar wasanaethau cyhoeddus ac ni allant weithio ar eu pennau eu hunain mwyach. Mae'r digwyddiad hwn yn dangos pŵer gwaith partner ac mewn ychydig o oriau cafodd swmp anferth o sbwriel a thipio anghyfreithlon ei glirio o'r amgylchedd lleol.

“Mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn gwneud y dull cydgysylltiedig hwn o weithio’n bosibl a dyna pam rwy'n credu eu bod nhw mor bwysig. Pan mae pobl yn teimlo'n hapusach ac yn ddiogel yn eu hamgylchedd lleol, maen nhw'n fwy tebygol o dreulio amser yn yr awyr agored, gan arwain at lu o fuddiannau i iechyd pobl ac i'r gymdeithas.

"Hoffwn longyfarch pawb a gymrodd ran yn y digwyddiad hwn, yn arbennig Cadwch Gymru'n Daclus a arweiniodd y gweithgareddau a myfyrwyr Coleg Gwent a roddodd o'u hamser ar fore gwlyb a diflas er budd y gymuned."

I ddysgu mwy am waith Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, cofrestrwch i dderbyn ei gylchlythyr wythnosol yn Saesneg http://eepurl.com/gcUkVj  neu yn Gymraeg http://eepurl.com/ge9oFL