Therapi bocsio'n taro'r nod gyda phobl ifanc
Mae elusen sy'n darparu hyfforddiant a therapi bocsio digyswllt yn helpu i gadw plant yn Nhorfaen yn egnïol ac yn yr ysgol.
Mae'r elusen ieuenctid Empire Fighting Chance yn gweithio gydag ysgolion yng Nghwmbrân a Phont-y-pŵl, yn cynnig sesiynau hyfforddiant i blant penodol ar wahân i'r cwricwlwm. Mae wedi bod yn gweithio gyda rhai o ofalwyr ifanc Torfaen hefyd i'w helpu nhw i leddfu straen a datblygu dulliau ymdopi a fydd yn eu helpu wrth iddynt jyglo gwaith ysgol gyda'u cyfrifoldebau gofalu.
Mae hyfforddwyr Empire Fighting Chance yn cyfuno bocsio digyffwrdd gyda mentora ac addysg seicolegol, yn defnyddio'r bylchau rhwng hyfforddiant i drafod ymddygiad priodol a chael sgyrsiau agored a gonest gyda phlant am faterion a all fod yn effeithio arnynt.
Meddai Luke Jones, Pennaeth Gweithrediadau Empire Fighting Chance: "Mae'r plant rydyn ni’n gweithio gyda nhw'n aml yn cael trafferth i ymdopi â dysgu traddodiadol yn yr ystafell ddosbarth am amryw o wahanol resymau. Gallwn eu cadw nhw'n brysur gyda'r bocsio, eu cael nhw i symud o gwmpas a chael hwyl, ac mae hyn yn eu galluogi nhw i ymlacio a siarad yn agored gyda ni am y problemau sy'n effeithio arnyn nhw.
"Rydyn ni wedi canfod mai anaml iawn y mae plant sydd â hanes o golli ysgol yn colli ein sesiynau, ac mae athrawon yn dweud wrthym eu bod nhw'n gweld gwelliant amlwg yn eu hymddygiad a'u gwaith ysgol hefyd."
Mae Empire Fighting Chance wedi cael cyllid gan gronfa gymunedol y Comisiynydd ers 2022 ac mae wedi rhoi cymorth i tua 100 o blant a phobl ifanc yn ystod y cyfnod yma.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Rydym yn gwybod bod plant sy'n colli ysgol yn rheolaidd yn agored i ddechrau ymwneud â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
"Mae prosiectau fel yr un yma'n helpu i gadw plant yn yr ysgol ac yn cynnig buddion sylweddol o ran lles corfforol a meddyliol ar yr un pryd. Mae'r hyfforddwyr yn Empire Fighting Chance yn pwysleisio ymddygiad da a meddwl cadarnhaol a fydd, rwy'n gobeithio, yn cyfrannu at ddyfodol hapus ac iach i'r bobl ifanc yma."