Tablau cynghrair newydd yn dangos pa mor gyflym y mae heddluoedd yn ateb galwadau 999

31ain Mai 2022

Mae'r amser y mae'n ei gymryd i bob heddlu yn y DU ateb galwadau 999 brys wedi'i gyhoeddi am y tro cyntaf erioed, mewn ymgais i wella cyflymder y gwasanaeth a ddarperir i'r cyhoedd.

Mae hyn yn cyflawni ymrwymiad allweddol yng Nghynllun Trechu Trosedd y llywodraeth i wella tryloywder a pherfformiad, gan ffurfio rhan o waith parhaus ehangach y llywodraeth i leihau troseddu, gwella gwasanaethau cyhoeddus a gwneud ein strydoedd yn fwy diogel.

Bydd cyhoeddi tablau cynghrair 999 yn ailgysylltu'r heddlu â'r cyhoedd, gan ddwyn heddluoedd unigol i gyfrif a helpu i nodi materion nad oeddent yn hysbys o'r blaen, gyda'r nod o wella perfformiad.

Ar gyfartaledd ledled y DU, mae heddluoedd yn derbyn galwad 999 bob tair eiliad. Mae data heddiw yn dangos bod 71% o'r rhain yn cael eu hateb o fewn y targed o lai na 10 eiliad, a chyfartaledd cyffredinol yr amser ateb yn 16.1 eiliad. Dyma'r tro cyntaf i heddluoedd allu cymharu eu hamseroedd ateb.

Gan fod amrywiaeth sylweddol ledled y wlad, bydd y wybodaeth hon yn grymuso pob heddlu i sicrhau bod eu gwasanaeth yn cyflawni disgwyliadau'r cyhoedd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel:

"Gall ffonio 999 yn llythrennol fod yn fater o fyw neu farw. Mae'r cyhoedd yn haeddu gwybod y bydd eu heddlu lleol ar ben arall y ffôn, yn barod i weithredu o fewn eiliadau i'w hamddiffyn rhag niwed.

"Yn y bôn, bwriad cyhoeddi'r data hwn yw codi safonau ein gwasanaethau brys anhygoel hyd yn oed ymhellach, fel y gall y cyhoedd fod â phob hyder yng ngallu'r heddlu i achub bywydau a chadw ein strydoedd yn ddiogel.

"Gallwn nawr weld lle mae heddluoedd yn rhagori a lle mae angen gwneud gwelliannau hanfodol ac rwy’n diolch i'r heddlu am eu hymrwymiad i sicrhau ein bod yn cynnal y gwasanaethau brys gorau yn y byd."

Mae'r set ddata gyntaf yn cynnwys galwadau a wnaed rhwng 1 Tachwedd 2021 a 30 Ebrill 2022. Mae'n dangos bod rhai heddluoedd yn ymateb yn gyson, tra bod angen i eraill wella. Un heddlu sy'n perfformio'n dda oedd ‘Avon and Somerset’, sy'n ateb dros 90% o'u galwadau 999 mewn llai na 10 eiliad yn gyson.

Pan atebir nifer fawr o alwadau rhwng 10 a 60 eiliad, bydd y cyhoedd yn briodol yn disgwyl gweld gwelliannau lle mae'r tablau cynghrair hyn yn dangos bod eu hangen.

Mae amrywiaeth o resymau dros wahaniaethau ac mae'r data'n debygol o amrywio bob mis. Mae heddluoedd yn gweithredu’n annibynnol, a bydd gan bob un ei bwysau unigryw ei hun i’w nodi a mynd i'r afael â nhw. Gall galwadau jôc, oedi wrth gysylltu a defnydd amhriodol o 999 i ffonio am faterion nad ydynt yn achosion brys i gyd gyfrannu at oedi wrth ateb.

Gall yr amser oedi rhwng deialu 999 a chael eich cysylltu â'r atebwr galwadau fod hyd at saith eiliad mewn rhai ardaloedd. Mae rhai heddluoedd eisoes yn adolygu eu systemau teleffoni ac yn gweithio gyda BT i ddatrys hyn.

Gall cyfnodau tymhorol, fel Nos Galan, tywydd sy’n hynod o boeth neu oer, cyngherddau a gwyliau hefyd gael effaith sylweddol ar amseroedd aros mewn rhai heddluoedd, oherwydd bod nifer fawr o bobl yn teithio i ardal yr heddlu ar yr un pryd. Bydd darlun cyffredinol o effeithiolrwydd yr heddlu wrth ateb galwadau brys, gan ystyried y ffactorau hyn, yn parhau i gael ei fireinio wrth i'r broses gasglu data barhau.

Mae'r data ar gael i'r cyhoedd drwy www.police.uk, lle gallant weld data eu heddlu lleol yn y tab data perfformiad 999. Yn y dyfodol, bydd y data'n cael ei ryddhau ar ddiwedd pob mis ar gyfer y mis blaenorol.


Dywedodd Arweinydd Rheoli Cyswllt Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC), y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Alan Todd:

"Mae rhyddhau Data Perfformiad 999 heddiw yn dangos y lefel uchel o alw sy'n cael ei roi ar y bobl sy'n derbyn galwadau yn ddyddiol ledled y DU.

"Gallwn weld, rhwng mis Tachwedd 2021 a mis Ebrill 2022, bod yr heddlu wedi ateb dros 3.7 miliwn o alwadau mewn llai na deg eiliad ac 1.2 miliwn arall mewn llai na 60 eiliad.

"Mae Lluoedd Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn ymdrechu i ateb 90% o alwadau 999 o fewn deg eiliad, a nod Heddlu'r Alban yw bod ag amser ateb cymedrig o alwadau 999 yn cael eu hateb mewn llai na deg eiliad.

"Mae Data Perfformiad 999 yn helpu’r heddlu i ddeall profiad y cyhoedd o'u safbwynt nhw o'r eiliad y maen nhw'n deialu 999. Gwyddom fod oedi weithiau o ran cysylltu galwadau â'r heddlu ac mae'r rhain yn amrywio ledled y wlad, ond nid mater i aelod o'r cyhoedd yw datrys hyn, ein lle ni yn yr heddlu yw edrych ar ein seilwaith a gweithio gyda'n partneriaid allweddol, gan gynnwys BT, i wella profiad aelod o'r cyhoedd sy'n ffonio 999.

"Rydym ni eisiau i'r cyhoedd allu gweld y data fel rhan o sicrhau bod plismona yn agored ac yn dryloyw. Dyma'r tro cyntaf i heddluoedd a'r cyhoedd allu gweld yr amser y mae'n ei gymryd i ateb galwadau 999 o'r eiliad mae’r alwad yn cael ei gwneud gan y cyhoedd, tan iddi gael ei chysylltu â'r heddlu gan BT a darparwyr lleol, a chael ei hateb gan y bobl sy’n ymdrin â galwadau'r heddlu. Byddwn yn dysgu o'r data hwn er mwyn gwella cyflymder ateb galwadau 999 fel y gall y cyhoedd ddisgwyl yr ymateb cyflymaf posibl wrth ffonio 999.

"Rydym yn gwybod y bydd y rhan fwyaf o bobl yn ffonio'r heddlu pan fo gwir angen, ond yn anffodus nid yw hyn bob amser yn wir a hoffwn i atgoffa pobl i ffonio 999 mewn argyfwng gwirioneddol yn unig.

"Mae llawer iawn o bwysau'n cael ei roi ar bobl sy'n derbyn galwadau, ac maent yn gweithio'n ddiflino i ddarparu'r cymorth a'r cyngor cywir pan mae rhywun mewn angen, ond rydym yn llawer rhy aml yn gweld rhai pobl yn ein cymdeithas yn defnyddio 999 yn amhriodol.

"Rydym ni'n gwybod mai un o'r meysydd sy’n achosi’r pryder mwyaf o ran galwadau 999 i'r heddlu yw galwadau jôc. Heblaw am wastraffu amser yr heddlu, gall hefyd achosi oedi i rywun sydd wir angen help rhag ei gael pan fydd ei angen. Pan fydd rhywun yn deialu 999, mae pob eiliad yn cyfri, ac ni allwn fod â’r unigolion hunanol hynny yn ein cymdeithas sy’n gwastraffu amser yr heddlu'n fwriadol drwy wneud galwadau jôc.

"Rwy’n apelio arnyn nhw i ystyried y gallai eu gweithredoedd fod yn peryglu bywyd rhywun. Bydd pobl yn ffonio 999 pan fydd angen cymorth brys arnyn nhw, gyda'n gilydd rhaid inni sicrhau nad yw'r llinellau'n cael eu rhoi dan bwysau oherwydd pethau fel galwadau jôc sy’n fwriadol yn gwastraffu amser yr heddlu.

"Rwy'n deall hefyd y gallai rhai pobl fod yn poeni a ddylen nhw fod yn deialu 999 ai peidio, ac o dan ba amgylchiadau. Gwyddom pan fydd aelod o'r cyhoedd yn ffonio 999 am rywbeth sy'n gysylltiedig â’r heddlu, efallai nad yw'n argyfwng a rhaid eu cyfeirio at wasanaethau eraill fel 101, sy'n arwain at gymryd amser atebwyr galwadau brys 999 yn anfwriadol.

"Y neges i'r cyhoedd yw y dylech yn sicr ffonio 999, ond gwnewch hynny os oes trosedd ddifrifol yn digwydd neu os yw’r drosedd newydd gael ei chyflawni; os oes bygythiad i fywyd rhywun, neu os ydynt mewn perygl neu niwed uniongyrchol; os yw eiddo mewn perygl o gael ei ddifrodi; neu os bydd tarfu difrifol ar y cyhoedd yn debygol.

"Os nad yw eich galwad i'r heddlu yn ymwneud ag un o’r rhain ond ei fod yn dal yn gysylltiedig â’r heddlu ac nid yn achos brys, dylech gysylltu â'ch heddlu lleol drwy ar y rhif 101 ar gyfer galwadau nad ydynt yn rhai brys neu drwy adrodd ar-lein drwy wefan eich heddlu lleol."

Dywedodd Alison Hernandez a Jeff Cuthbert, Arweinwyr Plismona Lleol APCC:

"Mae'r data perfformiad hwn yn dangos y galw am blismona a nifer y galwadau y mae heddluoedd yn delio â nhw ledled y wlad.

"Mae'r cyhoedd, yn gwbl briodol, yn disgwyl i'r heddlu ymateb i alwadau 999 yn brydlon, felly bydd Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd yn defnyddio'r data i fynd i'r afael â pherfformiad ar draws ein heddluoedd lleol, yn gwneud yn siŵr fod ein prif gwnstabliaid yn gyfrifol ac yn sicrhau bod aelodau'r cyhoedd yn cael ymateb effeithlon ac effeithiol pan fyddant yn ffonio 999.

"Fel llais y cyhoedd mewn plismona, mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd yn awyddus iawn i ddeall yn well brofiadau'r cyhoedd wrth gysylltu â'u heddluoedd lleol, a dyna pam y cyhoeddodd yr APCC arolwg cenedlaethol ar reoli cysylltiadau yn gynharach y mis hwn i helpu i nodi unrhyw heriau o ran lle mae'r cyhoedd yn adrodd am droseddu drwy wasanaethau 101 a 999.

"Mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd wedi eu hymrwymo i gefnogi rhagoriaeth mewn plismona a byddant yn defnyddio'r data hwn i ysgogi gwelliannau yn barhaus a dwyn yr heddlu i gyfrif ar ran y cyhoedd."