Swyddogion Heddlu Gwent yn dod ag anrheg Nadolig cynnar i bobl sydd wedi goroesi strôc yng Nghoed-duon

21ain Rhagfyr 2018

Roedd Grŵp Cymorth Strôc Coed-duon wrth ei fodd i dderbyn anrheg Nadolig cynnar gan swyddogion Heddlu Gwent yr wythnos hon - siec am £695.

Cerddodd y tîm o swyddogion, pob un ohonynt o orsafoedd heddlu Rhisga a Choed-duon, y llwybr pedair milltir i gopa Pen y Fan ym mis Hydref, gan godi arian hanfodol ar gyfer y grŵp cymorth lleol.

Roedd Swyddog Cymorth Cymunedol (SCC) Sue Falconer yn un o'r rhai a gymrodd ran yn y daith: Dywedodd: “Mae wedi bod yn fraint i ni gyflwyno siec am £695 i'r grŵp. Bu'n rhaid i aelod o'n teulu heddlu ymddeol ar sail iechyd y llynedd ar ôl dioddef strôc.

“Ar ôl gweld yr effaith emosiynol, corfforol a meddyliol arno ef a'i deulu, roeddem am wneud popeth posibl i roi cymorth i bobl eraill sydd wedi cael eu heffeithio gan y salwch hwn.”

Dywedodd Mike Rees, ysgrifennydd Grŵp Cymorth Coed-duon: “Mae ein grŵp yn rhoi cymorth hollbwysig i'r bobl yn ein cymuned sydd wedi cael eu heffeithio gan strôc.

“Bydd yr arian hwn yn ein galluogi ni i barhau i ddarparu'r cymorth hwnnw i lawer mwy o bobl.

“Ar ran holl deulu Grŵp Strôc Coed-duon, hoffwn ddiolch o galon i bawb a gymerodd ran ac a gyfrannodd.”

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: “Bûm yn ymweld â Grŵp Strôc Coed-duon y Nadolig diwethaf ac roeddwn yn llawn edmygedd at yr unigolion y gwnes i gwrdd â nhw a'r cymorth roedden nhw'n ei roi i'w gilydd.

“Rwyf yn hynod o falch o'n swyddogion yn Heddlu Gwent sydd nid yn unig yn cefnogi cymunedau yn rhinwedd eu gwaith ond yn eu bywyd personol hefyd."

Mae Grŵp Cymorth Strôc Coed-duon yn grŵp gwirfoddol o'r Gymdeithas Strôc sy'n rhoi cymorth cymdeithasol a chymorth gan gymheiriaid i'w aelodau trwy wahanol weithgareddau.

Mae aelodau'n cwrdd bob dydd Iau am 10 y bore yn adeiladau Tai Gwarchod Cefn Glas.

Am ragor o wybodaeth am y grŵp, cysylltwch â'r Ysgrifennydd, Mike Rees, ar 07941 786 918 neu ewch i www.stroke.org.uk/finding-support