Swyddog o Heddlu Gwent yn ennill gwobr swyddog troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt y flwyddyn
4ydd Mai 2023
Hoffwn longyfarch swyddog Heddlu Gwent, Cwnstabl Heddlu Mark Powell, sydd wedi ennill gwobr ‘Swyddog troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt y flwyddyn 2023' ar draws Cymru gyfan.
Mae Cwnstabl Heddlu Powell ar secondiad dwy flynedd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar hyn o bryd. Yn y rôl hon mae wedi arwain nifer o erlyniadau yn erbyn troseddwyr sydd wedi cyflawni troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt.
Derbyniodd Mark yr anrhydedd clodfawr hwn hon yng Nghynhadledd Troseddau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad Cymru, a gynhaliwyd ar faes y Sioe Frenhinol. Dymunaf bob hwyl iddo yn y dyfodol.