STOPIO – SIARAD – AMDDIFFYN

21ain Gorffennaf 2020

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, a Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Eleri Thomas, yn falch iawn i gefnogi ymgyrch Heddlu Gwent i rybuddio rhieni am y peryglon sy'n cuddio ar-lein.

Mae'r neges i rieni a gofalwyr yn un syml, stopiwch yr hyn rydych yn ei wneud; siaradwch â’ch plant ynglŷn â chadw’n ddiogel ar-lein; ac amddiffynnwch nhw rhag niwed.

Daw hyn yn sgil cynnydd yn nifer yr adroddiadau am blant sy’n rhannu delweddau anweddus ar-lein.

Trwy gydol pandemig y Coronafeirws, mae mynd ar-lein wedi dod yn ffordd o fyw. Rydym ni i gyd yn dysgu, yn gweithio ac yn cymdeithasu ar-lein. I blant, mynd ar-lein yw’r ystafell ddosbarth, y maes chwarae neu’r amser chwarae newydd. Yn anffodus, mae yna bobl sy’n manteisio ar hyn ac yn cam-fanteisio ar bobl ifanc.

Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Ms Eleri Thomas MBE:

“Mae amddiffyn plant a phobl ifanc rhag niwed yn flaenoriaeth i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ac i Heddlu Gwent. Yn rhan o fy swyddogaeth i, rwy’n ymwybodol o dystiolaeth gynyddol bod plant a phobl ifanc yn destun niwed a chamfanteisio ar-lein.

“Mae troseddu yn esblygu bob amser ac mae’r math hwn o seiberdrosedd yn cael effaith sylweddol ar unigolion, teuluoedd a chymunedau. Mae Heddlu Gwent wedi ymrwymo i gefnogi anghenion diogelu a lles plant. Mae swyddogion a staff yn cael eu hyfforddi i adnabod yr arwyddion, ymateb yn gyflym ac ymchwilio er mwyn helpu i amddiffyn ein cymunedau.

“Rwy’n falch ein bod ni’n gweithio gyda phartneriaid lleol gan gynnwys arweinwyr addysg a sefydliadau ieuenctid i godi ymwybyddiaeth o’r peryglon y bydd ein cenedlaethau yn eu hwynebu ar-lein yn y dyfodol. Os ydych yn rhiant, yn ofalwr neu’n cefnogi plant a phobl ifanc, cofiwch y tri gair hyn: stopio, siarad, amddiffyn.

“Mae’n hynod bwysig cefnogi plant a phobl ifanc. Mae angen iddyn nhw fod yn ymwybodol o’r peryglon a chael eu hannog bob amser i siarad â rhywun y maen nhw’n ymddiried ynddo os ydyn nhw’n poeni neu’n pryderu.”

Ers dechrau pandemig y Coronafeirws, bu cynnydd yn nifer yr hysbysiadau mae Heddlu Gwent wedi eu derbyn am bobl ifanc sy’n rhannu delweddau anweddus.

I roi gwybod i’r heddlu am ddigwyddiad, ffoniwch 101 ar gyfer materion nad ydynt yn rhai brys neu 999 os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod mewn perygl dybryd.

Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.