Sesiynau bocsio ysgol yn chwalu rhwystrau gyda phobl ifanc

24ain Tachwedd 2022

Mae prosiect a ariennir gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd sy'n darparu hyfforddiant bocsio digyswllt yn helpu i gadw plant yn Nhorfaen yn egnïol ac yn yr ysgol.

Mae'r elusen ieuenctid Empire Fighting Chance yn gweithio gydag ysgolion yng Nghwmbrân a Phont-y-pŵl, yn cynnig sesiynau hyfforddiant i blant penodol ar wahân i'r cwricwlwm.

Mae hyfforddwyr Empire Fighting Chance yn cyfuno bocsio digyffwrdd gyda mentora ac addysg seicolegol, yn defnyddio'r bylchau rhwng hyfforddiant i drafod ymddygiad priodol a chael sgyrsiau agored a gonest gyda phlant am faterion a all fod yn effeithio arnynt.



Meddai Ben Whitworth, hyfforddwr Empire Fighting Chance: “Mae'r sesiynau rydyn ni’n eu cynnal yn helpu i wella hyder pob ifanc, magu cymhelliant a lleihau pryder a phroblemau iechyd meddwl eraill.

"Mae llawer o'r plant rydyn ni’n gweithio gyda nhw'n brwydro i ymdopi â dysgu traddodiadol yn yr ystafell ddosbarth, a thrwy gynnig dewis arall iddynt rydym yn helpu i wella eu presenoldeb yn yr ysgol ac yn eu helpu nhw i wireddu eu potensial."

Mae'r prosiect yn cael cymorth gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd trwy ei Gronfa Gymunedol, sy'n cael ei defnyddio i ariannu prosiectau sy'n rhoi cymorth i blant a phobl ifanc a allant fod mewn perygl o ddechrau ymwneud â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Mae'r sesiynau hyn yn dysgu plant am ffitrwydd corfforol, maeth a disgyblaeth.

“Trwy gynnig cyfle i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol o oedran cynnar, rydym yn atgyfnerthu ymddygiad da ac yn helpu i osod seiliau a fydd yn caniatáu iddynt gael dyfodol hapus ac iach."