Seremoni torri'r dywarchen yn nodi dechrau gwaith ar adeilad newydd yr heddlu

4ydd Chwefror 2020

Mae plant o uned Heddlu Bach Ysgol Gynradd Greenmeadow wedi torri'r dywarchen ar safle pencadlys newydd Heddlu Gwent i nodi dechrau swyddogol y gwaith adeiladu.

Bydd yr adeilad yn Llantarnam yn gartref i ystafell reoli'r llu, sef y pwynt cyswllt cyntaf i bobl sy'n ffonio'r llu, ynghyd â thimau troseddau mawr, swyddogaethau hyfforddiant, gwasanaethau cymorth ac uwch reolwyr.

Pan fydd wedi ei gwblhau, bydd y pencadlys newydd yn chwarae rhan allweddol yn sicrhau bod anghenion lles a hyfforddiant staff plismona yng Ngwent yn cael eu diwallu, i'w helpu nhw i amddiffyn a thawelu meddwl y cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu.

Disgwylir y bydd y pencadlys newydd wedi'i orffen erbyn diwedd 2021.

Dywedodd Prif Gwnstabl Pam Kelly: “Hoffwn ddiolch i Heddlu Bach Ysgol Gynradd Greenmeadow am ein helpu ni i nodi dechrau gwaith ar ein pencadlys newydd. Mae angen i ni sicrhau bod ein hadnoddau'n addas ar gyfer heriau plismona modern.

"Bydd ein pencadlys newydd yn caniatáu i ni ddefnyddio technoleg newydd a dulliau arloesol i ddarparu'r cymorth gorau posibl i'n timau ar y rheng flaen, yn eu helpu nhw i wasanaethu pobl Gwent hyd eithaf eu gallu."

Amcangyfrifir y bydd y pencadlys newydd yn arbed tua £1.1 miliwn o un flwyddyn i'r llall oherwydd costau rhedeg rhatach na'r safle presennol. Bydd ar safle sydd tua hanner ôl troed y pencadlys presennol a bydd yn darparu lle ar gyfer tua 480 o swyddogion a staff heddlu.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Rwyf wrth fy modd i weld gwaith adeiladu'n dechrau ar y pencadlys newydd sy'n nodi'r cam cyntaf yn ein strategaeth i wella adnoddau heddlu ledled Gwent.

“Bydd yr adeilad newydd yn darparu canolfan sy'n addas ar gyfer plismona modern, yn defnyddio technoleg newydd ac arferion gwaith cyfredol i helpu swyddogion a staff i warchod a thawelu meddwl y cyhoedd.”

BAM Construction yng Nghymru arweiniodd cam dylunio'r prosiect a nhw fydd y prif gontractwr ar gyfer y pencadlys newydd. Cafodd caniatâd cynllunio ar gyfer yr adeilad newydd 5,178m2 ei gymeradwyo'r llynedd a bydd y gwaith o symud o'r pencadlys presennol i'r un newydd yn digwydd fesul cam.