Seremoni gorffen hyfforddiant cadetiaid heddlu Pen-y-Cwm

26ain Gorffennaf 2023

Mae cadetiaid yr heddlu o Ysgol Arbennig Pen-y-Cwm yng Nglynebwy wedi dathlu eu llwyddiant mewn seremoni gorffen hyfforddiant arbennig.

Mae'r plant wedi bod yn gweithio gyda Heddlu Gwent dros y flwyddyn ddiwethaf yn rhan o'r cynllun cadetiaid. Maen nhw wedi cymryd rhan mewn gwersi ar sut i gadw'n ddiogel, wedi dysgu sut i ddefnyddio 'walkie-talkies' yr heddlu, ac wedi cael ymweliad gan yr uned cŵn heddlu.

Mae swyddogion cefnogi cymuned lleol yn ymweld â nhw'n rheolaidd hefyd.

Meddai Nicola Jenkins, Cymhorthydd Dysgu: "Mae'r cynllun cadetiaid yn help mawr i ddatblygu hyder y plant. Mae'n chwalu rhwystrau rhwng y plant a'r heddlu, ac yn dangos iddyn nhw nad oes angen iddyn nhw fod ofn pan maen nhw'n gweld iwnifform.

"Rydyn ni'n cael cefnogaeth wych gan y swyddogion cefnogi cymuned lleol a hoffwn ddiolch iddyn nhw am bopeth maen nhw wedi ei wneud i'r plant."

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Mae'n hyfryd gweld y plant yn mwynhau eu hunain ac yn dangos cymaint o ddiddordeb yn y cynllun cadetiaid.

"Mae'n ffordd bwysig i ni weithio gyda Heddlu Gwent a'r gymuned i chwalu rhwystrau a meithrin hyder mewn plismona o oedran cynnar." 

I gael rhagor o wybodaeth am gadetiaid yr heddlu, ewch i wefan Heddlu Gwent.