Sefyll Gyda'n Gilydd yng Ngwent

26ain Hydref 2017

Yn ei flog bob deufis diweddaraf, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, yn tynnu sylw at ymdrechion Heddlu Gwent a'i swyddfa i fynd i'r afael â throseddau casineb a chodi ymwybyddiaeth ohonynt; yn trafod ei gynlluniau ar gyfer ystâd yr heddlu a'i benderfyniad i sicrhau bod gan y Prif Gwnstabl yr adnoddau gofynnol i gynnal plismona gweladwy o fewn ein cymunedau. . .

“Roedd yr Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb (Hydref 14 – 21) yn gyfle i Heddlu Gwent a fy swyddfa i hyrwyddo cydlyniant cymunedol ac undod a chydweithio â'n partneriaid i sefyll gyda'n gilydd yn erbyn casineb ac anoddefgarwch.

Roeddwn yn falch o ddechrau'r wythnos yng Ngwent drwy gynnal y Twrnamaint Pêl Droed pump bob ochr Sefyll Gyda'n Gilydd cyntaf erioed gyda Heddlu Gwent. Daeth dros 150 o bobl i'r twrnamaint, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Gôl yn Llyswyry ar 15 Hydref, gan gynnwys dros 80 o bobl a oedd yn cystadlu am ‘Gwpan y Comisiynydd’ a'r ‘Plât Cydlyniant Cymunedol’. Heddlu Gwent a enillodd Cwpan y Comisiynydd a thîm JUBA, tîm o unigolion a gefnogwyd gan SEWREC a Chymdeithas Simbabwe, a enillodd y ‘Plât Cydlyniant Cymunedol’.

Er mwyn nodi diwrnod olaf yr Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb (Hydref 21), cynhaliodd Heddlu Gwent a fy swyddfa ŵyl Sefyll Gyda'n Gilydd yn Theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd. Daeth llawer o bobl i'r ŵyl a oedd yn cynnwys perfformiadau amlddiwylliannol gan ddawnswyr, cantorion, beirdd ac adroddwyr straeon. Roedd yn gyfle euraidd i arddangos a dathlu ein hamrywiaeth ddiwylliannol yng Ngwent.

Y mis diwethaf cyhoeddais adolygiad cynhwysfawr o ystâd yr heddlu, sy'n ceisio sicrhau bod holl adeiladau ac eiddo'r heddlu yng Ngwent yn addas at ofynion plismona modern ac yn darparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y dinesydd. Rwyf am sicrhau bod Heddlu Gwent yn cadw presenoldeb gweladwy a hygyrch wrth wraidd y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu a dyma beth oedd y tu ôl i fy mhenderfyniad i agor gorsaf heddlu newydd yng nghanol Caerffili ym mis Medi.

Cyhoeddais hefyd y byddai adeilad Pencadlys newydd yr Heddlu yn rhan o gam cyntaf yr adolygiad o ystâd yr Heddlu. Mae'r safle presennol ar Turnpile Road yng Nghwmbrân wedi gwasanaethu Heddlu Gwent yn dda dros y 50 mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae'r adeilad bellach wedi cyrraedd oedran lle mae galw brys am atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw drud, hanfodol ac nid yw'n ariannol hyfyw bellach. Bydd Heddlu Gwent yn symud i safle newydd pwrpasol yn Llantarnam, Cwmbrân, o 2019, gan sicrhau bod gan ein swyddogion a'n staff leoliad canolog newydd sy'n addas at y diben ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Fy mlaenoriaeth o hyd yw sicrhau y caiff cyllid ei fuddsoddi'n uniongyrchol mewn plismona rheng flaen yng Ngwent ac rwy'n ymrwymedig i sicrhau bod gan y Prif Gwnstabl arian priodol i recriwtio swyddogion newydd i sicrhau bod gennym heddlu ymatebol sy'n darparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol i'n trigolion.

Yn 2016-17, recriwtiodd y Prif Gwnstabl 120 o swyddogion yr heddlu er mwyn helpu i sicrhau gwelededd mor uchel â phosibl yn ein cymunedau a gwneud iawn am y niferoedd a gollwyd yn ystod y chwe blynedd diwethaf. Rydym yn recriwtio 160 o swyddogion eraill eleni er mwyn buddsoddi mewn mynd i'r afael â'r mathau o droseddau sy'n dod i'r amlwg megis seiberdroseddu a diogelu'r unigolion mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Bydd nifer o'r swyddogion hyn yn cymryd lle'r rheini sydd wedi ymddeol neu sydd wedi gadael yr heddlu yn barod.”