Prosiect perthnasoedd iach yn cael ei lansio ledled Gwent

27ain Mawrth 2019

Mae prosiect i helpu pobl ifanc i ddatblygu perthnasoedd iach wedi cael ei lansio yng Ngwent.

Y darparwr hyfforddiant lleol, Regener8 Cymru, sy'n darparu'r prosiect Perthnasoedd Iach ac mae'n cael ei ariannu gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent.

Mae'n caniatáu i bobl ifanc drafod materion megis cam-drin domestig, cydsynio rhywiol, pornograffi, cam-fanteisio rhywiol, a pherthnasoedd parchus mewn amgylchedd diogel a chefnogol.

Hyd yn hyn mae dros 700 o bobl ifanc o ysgolion, colegau a sefydliadau ieuenctid eraill ledled Gwent wedi derbyn yr hyfforddiant.

Cwmni buddiannau cymunedol dielw yw Regener8 Cymru. Dywedodd y Prif Weithredwr, Penny Chapman: “Mae pobl ifanc heddiw'n cael eu llethu gan gynnwys rhywioledig o oedran cynnar iawn ac mae gan lawer ohonyn nhw ddisgwyliadau hollol afrealistig ynghylch sut y dylen nhw ymddwyn, a'r hyn y dylen nhw ei ddisgwyl gan berthynas. Rydym yn gwybod hefyd y bydd llawer ohonyn nhw'n profi ac yn dyst i gam-drin domestig wrth dyfu i fyny.

“Mae'r sesiynau hyn yn helpu pobl ifanc i ddeall sut y dylai perthynas iach edrych a lle gallan nhw gael cymorth a chefnogaeth os oes angen.”

Mae Cadetiaid Heddlu Gwent yn bobl ifanc rhwng 14 a 18 oed ac maen nhw wedi derbyn yr hyfforddiant fel rhan o'u sesiynau yn yr ystafell ddosbarth.

Dywedodd Cadét Hannah Prewitt: “Rwy'n credu bod yr hyfforddiant hwn mor bwysig achos mae'n effeithio ar gymaint o bobl. Mae angen siarad yn eang amdano er mwyn i bobl gael help a gwybodaeth, a gwybod nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain a lle i hysbysu am unrhyw broblemau.

Dywedodd Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent: “Mae angen difrifol am yr hyfforddiant a'r cyngor hwn i bobl ifanc ac rydym wedi gweld galw enfawr am y gwasanaeth eisoes ers iddo gael ei lansio ym mis Ionawr.

“Trwy ddarparu hyfforddiant, cyngor a chefnogaeth ar adeg dyngedfennol ym mywydau'r bobl ifanc hyn rydym yn helpu i'w gwyro nhw oddi wrth y posibilrwydd o gyflawni trosedd yn eu perthnasoedd, gan helpu i gefnogi pobl eraill ar yr un pryd a allant fod yn fregus ond nad ydynt wedi gallu codi llais.”

I archebu hyfforddiant ar gyfer ysgol neu sefydliad, cysylltwch â Penny Chapman ar 07532187253 neu pennyc@regener8cymru.co.uk